Beth mae'r Rhwydwaith IAG yn ei wneud
Mae Skillset yn arwain y ffordd ar ran y Gynghorau Sgiliau Sector (CSSau) eraill, drwy brosiect Rhwydwaith IAG CSS, gan helpu i osod y safon ar gyfer darparu Gwybodaeth Cyngor ac Arweiniad (IAG).
Mae'r rhwydwaith hwn yn annog CSSau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac arfer gorau ar IAG. Mae enghreifftiau o sut mae gwasanaeth gyrfaoedd Skillset yn cynrychioli arfer gorau yn cynnwys:
- Sesiynau arweiniad gyrfaoedd wyneb-yn-wyneb;
- Arweiniadau byrddau stori rhyngweithiol i ddiwydiannau'r cyfryngau;
- Casgliad cynhwysfawr o broffiliau swyddiar gyfer mwyafrif ein diwydiannau.
Nodau'r prosiect
Sefydlwyd a datblygwyd y rhwydwaith gan Skillset, gyda chefnogaeth gan y Department for Innovation, Universities adn Skills a'r Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector ar ran yr holl Rwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes (SfBN), gyda'r nodau canlynol:
- sefydlu ‘cynnig craidd' o wasanaethau IAG gan bob CSSau;
- profi ffyrdd o ddosbarthu Gwybodaeth y Farchnad Lafur (GLF)i dargedu gwahanol grwpiau o gleientiaid;
- datblygu safonau ansawdd ar gyfer GFL a ddefnyddir o fewn y broses arweiniad;
- adrodd yn ôl i'r Llywodraeth a'i hasiantaethau ar bolisi IAG.
Mae CSSau yn defnyddio eu harbenigedd ar y diwydiant i ddadlau dros gefnogaeth fwy cynhwysfawr i Gynghorwyr Gyrfaoedd. Ac mae'r rhwydwaith yn anelu at sicrhau bod gan yr ymgynghorwyr fynediad llawn i GFL awdurdodol. Mae hyn er mwyn i wasanaethau IAG allu ymestyn eu cyrhaeddiad i helpu pobl o bob oed a chefndir wneud penderfyniadau gyrfaoedd mwy effeithiol.
Cyflëwyd y weledigaeth hon o seilio IAG gyrfaoedd ar y ffeithiau caled a ddarperir gan wybodaeth y farchnad lafur yn ymateb yr SSDA i Adolygiad Leitch. Gallwch ddarllen yma hefyd ymateb Skillset i Adolygiad Leitch.
Llwyddiannau cynnar y rhwydwaith
Mae'r 25 CSSau sy'n rhan o'r SfBN wedi dechrau datblygu eu hystod o gynnyrch a gwasanaethau gyrfaoedd yn unol ag argymhellion Prosiect Rhwydwaith IAG CSS.
Mae'r ystod eang o sectorau'r diwydiant a gwmpesir gan y SfBN (cliciwch yma am restr cyflawn o'r CSSau) bellach yn elwa o gael:
- GFL benodol i'r sector (gweler adran ymchwil Skillsmart Retail);
- llwybrau cynnydd (mae Cogent's Careers Pathways yn adnodd ardderchog);
- astudiaethau achos (DVD IT e-skills)sy'n dangos ymarferwyr go iawn yn siarad am eu swyddi).
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Kate O'Connor ar kateo@skillset.org
