
Beth sy'n gwneud y gwahaniaeth?
Mae llawer o sefydliadau yn darparu cyngor ar yrfaoedd ar draws y DU. Nid yw'r wybodaeth a'r cyngor y mae'r asiantaethau hynny yn eu darparu bob amser yn cyfleu realiti'r diwydiannau y maent yn dymuno eu gwasanaethu.
Ac yn aml, nid oes gan y sefydliadau hyn yr adnoddau i roi hyfforddiant manwl i Gynghorwyr Gyrfaoedd ar wahanol sectorau'r diwydiant.
Mae Cynghorau Sgiliau Sector (CSSau) mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno gwybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) gyrfaoedd sy'n adlewyrchu realiti dydd i ddydd y sectorau y maent yn eu cynrychioli mewn gwirionedd.
Mae gwasanaethau gyrfaoedd Skillset wedi'u gwreiddio yng nghanfyddiadau ein rhaglen ymchwil gynhwysfawr am ein diwydiannau. Trwy gynnig cyngor ac arweiniad yn seiliedig ar ffeithiau caled ac arfer diweddaraf y diwydiant, rydym yn anelu at helpu ein diwydiannau i leihau bylchau a diffygion mewn sgiliau, a chynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithlu'r diwydiant.
Mae ein cyngor ar yrfaoedd yn gynnyrch ymgynghori parhaus â phrif ffigurau'r diwydiant, ein dadansoddiad o dueddiadau'r dyfodol a gwybodaeth y farchnaf lafur (GFL).
Mae gwasanaethau gyrfaoedd Skillset yn darparu datrysiadau personol i weithwyr proffesiynol y diwydiant neu i newydd-ddyfodiaid. Mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd yn weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, sy'n gweithio mewn un neu fwy o'r sectorau clyweledol. Maent wedi eu hyfforddi'n broffesiynol i ddarparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd proffesiynol. Maent yn gwella'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu drwy ddefnyddio eu profiadau personol fel gweithwyr llawrydd yn y diwydiant.
Dyna sut mae ein cynghorwyr gyrfaoedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
