
Gweithdai ar gyfer Cynghorwyr Gyrfaoedd
Mae Skillset yn cynnal gweithdai led led y DU, wedi eu hanelu yn benodol at bobl proffesiynol sy'n cynnig arweiniad gyrfaol ar yrfaoedd o fewn y sector clyweledol (darlledu, ffilm, fideo, cyfryngau rhyngweithiol a delweddu lluniau).
Mae ein gweithdai yn darparu:
- arolwg cynhwysfawr o wybodaeth, cyngor ac arweiniad (IAG) o fewn y diwydiannau cyfryngau;
- y cyfle i ddefnyddio canfyddiadau ein gwybodaeth y farchnad lafur (GFL) ac adnoddau gwerthfawr eraill;
- cysylltiad uniongyrchol gyda chyflogwyr ac arbenigwyr o fewn y diwydiant, er mwyn i chi fedru defnyddio gwybodaeth fewnol a realiti gwahanol sectorau.
Ydych chi am gymryd rhan? Dyma sydd angen i chi ei wybod:
- Cynhelir ein gweithdai ar gyfer cynulleidfa sy'n cynnwys lleiafswm o 20 person, felly bydd angen i chi berswadio Cynghorwyr eraill i fod yn rhan ohono. Y ffordd orau yw perswadio'r sefydliad rydych yn gweithio iddo i gysylltu â ni.
- Rydym yn cynnal y gweithdai yn rhad ac am ddim ac rydym yn barod i deithio i bron â bod unrhyw le yn y DU! Bydd gofyn i'ch sefydliad/grwp o gynghorwyr ddarparu lleoliad i ni yn ogystal â chefnogaeth logistaidd er mwyn cynnal y gweithdy.
- Oherwydd adnoddau cyfyngedig, ni allwn gynnal digwyddiadau gyrfaoedd mewn ysgolion, colegau na phrifysgolion am ddim.
- Bydd angen i chi wneud eich cais ymhell o flaen llaw (rhybudd o o leiaf 12 wythnos) ac awgrymu amrywiaeth o ddyddiadau posib er mwyn i ni fedru eich cynnwys ar ein amserlen.
- Fe wnawn bob peth o fewn ein gallu i gynnal eich gweithdy, ond byddwch yn ymwybodol fod ein hadnoddau yn gyfyngedig, sy'n golygu nad ydym bob amser yn gallu cwrdd â'r galw.
Llawrlwythwch y canllawiau yma ynglyn â sut i drefnu gweithdy, neu cysylltwch â Christine O'Hara ar christineo@skillset.org
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.
