
Dechrau allan
O safbwynt boddhad creadigol, mae swyddi yn y cyfryngau yn cynnig mwy o foddhad gyrfaol na llawer o swyddi eraill. Yr ochr negyddol, fodd bynnag, yw bod y swyddi hyn yn boblogaidd iawn, felly mae'r gystadleuaeth yn frwd. Ond os wnewch chi ddyfalbarhau, ac os yw'r dalent gennych, gall y boddhad fod yn sylweddol.
Os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, peidiwch â phoeni - nid ydych ar eich pen eich hun. Roedd llawer o'r bobl sy'n gwneud eich swydd ddelfrydol nawr yn eich esgidiau chi unwaith. Efallai bydd ychydig o ymchwil amserol yn rhoi'r hwb angenrheidiol i'ch rhoi ar ben ffordd.
Bydd yr adran hon yn eich helpu i gyfarwyddo â'r gwahanol swyddi a'r llwybrau gyrfa sy'n agored i chi. Defnyddiwch y wybodaeth i rhoi eich hun ar y blaen yn y diwydiannau cyffrous hyn!
Adnabod y diwydiant
Mae cannoedd o wahanol swyddi yn y cyfryngau, rhai ohonynt efallai nad ydych erioed wedi eu hystyried fel opsiwn gyrfaol posib.
Read MoreAddysgu dy hun
Y mwyaf o wybodaeth sydd gennych am y maes yr hoffech weithio ynddo, yr hawsaf y bydd i chi benderfynu beth i'w wneud nesaf. Yn ffodus, mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar gael i'ch helpu.
Read MoreAsesu eich sgiliau
Pan ofynnir i gyflogwyr pam eu bod yn cyflogi'r un bobl dro ar ôl tro, eu hateb yn aml yw, "Maen nhw'n gwneud eu swyddi'n dda ac mae'n hawdd gweithio gyda nhw".
Read MoreCael hyd i'r hyfforddiant iawn
Beth bynnag eich cymhelliant, mae'n bwysig ymchwilio gwahanol gyrsiau er mwyn sicrhau bod yr un yr ydych yn ei ddewis yn cwrdd â'ch anghenion.
Read MoreRhwydweithio a chwilio am swyddi
Ai pwy yr ydych yn eu hadnabod sy'n bwysig? Wel, ie a na. Eich enw da sy'n cyfrif. Pan fydd prosiect yn cael caniatâd i fwrw ymlaen, y bobl gyntaf y bydd cyflogwyr yn eu cyflogi yw'r rheiny y maent wedi gweithio gyda hwy o'r blaen.
Read MoreMagu profiad
Mae'n hanfodol magu ychydig o brofiad a dechrau rhwydweithio. Nid yw profiad gwaith yn talu'n dda iawn, ond fel hyn mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau, a gall arwain at bethau gwell.
Read MoreRydych i fewn-be nesa?
Gydag ychydig o brofiad y tu ôl i chi, nawr yw'r amser i gynllunio sut rydych yn mynd i ddringo'r ysgol yrfa.
Read MoreTaflenni Gwybodaeth
Mae sawl un wedi dweud fod ein taflenni gwybodaeth yn "ddefnyddiol dros ben" pan yn chwilio am eu swydd gyntaf.
Read More