
Rhwydweithio a chwilio am swyddi
Mae llawer o'r busnesau yn y cyfryngau creadigol yn gweithredu ar sail prosiect wrth brosiect.
Pan fydd prosiect newydd yn cael caniatâd i fwrw ymlaen, mae angen i gyflogwyr drefnu criw yn gyflym. A'r bobl gyntaf y byddant yn eu cyflogi fydd y bobl y maent wedi gweithio gyda hwy o'r blaen. Os nad ydynt ar gael, maent fel arfer yn cyflogi ar sail argymhelliad personol.
Yn y busnes hwn, mae rhwydweithio a chwilio am swyddi yn gysylltiedig tu hwnt. Mae'n anodd cael swydd heb eich bod yn hysbys i bobl, felly mae dysgu sut i rwydweithio yn effeithiol yn bwysig iawn.
I ddod o hyd i waith a darbwyllo cyflogwyr, mae angen i chi sefyll allan. Dangoswch iddynt eich bod yn llawer mwy na'r sgiliau a restrir ar eich CV, a phrofwch eich bod yn barod ar gyfer gwaith.
Rhwydweithio'n effeithiol
Mae'r diwydiannau creadigol a chyfryngol yn 'fusnes cysylltiadau'. Bydd rhwydweithio yn gwneud yn siwr fod eich gyrfa yn rhedeg yn esmwyth. Mae hwn, yn sicr, yn sgil y mae angen i chi ei feistroli.
Read MoreTaflenni Gwybodaeth
Mae sawl un wedi dweud fod ein taflenni gwybodaeth yn "ddefnyddiol dros ben" pan yn chwilio am eu swydd gyntaf.
Read MoreChwilio am swyddi
Cofiwch nad eich sgiliau yn unig sy'n cyfrif, ond eich gallu i ddangos eich bod yn deall yr hyn mae eich cyflogwyr ei angen gennych, a pham.
Read MoreCareers advice videos for Creative Media
Skillset have produced a range of videos to help you get ahead in the industry.
Read MoreMagu profiad
Mae'n hanfodol magu ychydig o brofiad a dechrau rhwydweithio. Nid yw profiad gwaith yn talu'n dda iawn, ond fel hyn mae'r rhan fwyaf o bobl yn dechrau, a gall arwain at bethau gwell.
Read MoreCysylltiadau yn y diwydiant a rhwydweithio
Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyfryngau creadigol, ac sy'n helpu ymarferwyr i weithio gyda'i gilydd.
Read MoreDolenni recriwtio
Os ydych yn chwilio am swydd yn y cyfryngau, dyma ddetholiad o wefannau i chi, fel man cychwyn.
Read More