skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Ewch ati i gasglu hynny o wybodaeth ag y medrwch

Paratoi'n drylwyr

Newyddion drwg ... mae'r cwbl yn ymwneud â gwaith cartref.

Rydych yn sicr fod gennych y dalent, ond mae'n rhaid i chi gasglu cymaint o wybodaeth â phosib, a'i ddefnyddio bob cyfle gewch chi!

Defnyddiwch y ffynonellau canlynol i lunio eich ymchwil:

  • Darllenwch bapurau newydd y maes ar gyfer eich sector: dewch i wybod am y bobl sy'n gweithio ynddo. Ceisiwch ddarganfod pwy sy'n ennill comisiynau, beth yw'r datblygiadau o ran technoleg, ac edrychwch ar yr hysbysebion swyddi i gael syniad am y math o swyddi sydd ar gael. Nid oes angen i chi ymrwymo i danysgrifiadau drud - mae llawer ar gael mewn llyfrgelloedd cyfeirio da.

  • Ceisiwch gael gwybod mwy am fudiadau masnach, gildiau, undebau, cymdeithasau a sefydliadau rhwydweithio: Mae'r sefydliadau hyn yn cynnig cefnogaeth a chynrychiolaeth, cyngor am gontractau, cyfraddau cyflog, iechyd a diogelwch ac ati. Maent hefyd yn cynnal digwyddiadau, yn darparu cyfleoedd rhwydweithio ac yn trefnu hyfforddiant. Mae llawer yn cynnig gostyngiad ar ffioedd aelodaeth i newydd-ddyfodiaid.

  • Ymunwch â chymunedau ar-lein: Maent yn darparu fforwm er mwyn cyfnewid syniadau, gwybodaeth a dolenni i gyfeirlyfrau'r diwydiant (mae rhai ohonynt ar gael ar-lein). Maent yn llawn gwybodaeth am fentrau newydd, cyfleoedd ar gyfer swyddi, a manylion cyswllt ar gyfer cwmnïau ac unigolion. Gall y math hwn o wybodaeth ddyddio'n gyflym iawn, felly gwiriwch bob tro cyn anfon cais.

  • Edrychwch ar wefannau cwmnïau: Dewch o hyd i wybodaeth gefndir ddefnyddiol ar bersonél, gwybodaeth am gynnyrch, manylion cyswllt a chyfleoedd ar gyfer swyddi. Gwiriwch wefan cwmni bob tro cyn cyflwyno cais neu fynychu cyfweliad.

  • Mynychwch ddigwyddiadau'r diwydiant: Ceisiwch gwrdd â phobl wyneb yn wyneb. Cewch lawer o wybodaeth fewnol, a byddwch yn gallu rhoi enw i wyneb. Nodwch bopeth mewn llyfr cysylltiadau, a thaflwch eich hun i mewn i rwydweithio - mae eich dyfodol yn dibynnu arno!

  • Edrychwch am gyfleoedd yn eich ardal: Mynnwch wybodaeth am y sefydliadau sy'n weithgar yn eich rhanbarth a chadwch ar y blaen o ran datblygiadau lleol. Mae rhai (e.e. Asiantaethau Sgrîn Rhanbarthol) wedi'u hariannu'n gyhoeddus ac mae ganddynt lyfrgelloedd cyfeirio lle gallwch ddarllen papurau newydd y maes ac edrych ar gyfeirlyfrau.
Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800