skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Gallech synnu eich hun gyda faint o sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych yn barod!

Trosglwyddo eich sgiliau

Weithiau mae'n anodd mesur y sgiliau sydd gennych yn barod. Os ydych wedi gadael yr ysgol, efallai nad ydych yn gwybod mewn gwirionedd beth yw eich cryfderau. Yn yr un modd, os ydych yn gweithio ar hyn o bryd mewn diwydiant arall, efallai nad ydych yn siwr a oes modd i chi drosglwyddo eich sgiliau presennol.

Un ffordd dda o ganolbwyntio eich meddwl yw i edrych yn ôl ar swyddi eraill yr ydych wedi'u gwneud yn y gorffennol, neu pa brosiectau yr oeddech wedi ymwneud â hwy fel myfyriwr, ac atgoffa eich hun am yr hyn yr oeddech wedi'i fwynhau a'r hyn oedd yn anodd neu'n llafurus.

Mae'n debygol y bydd y profiadau yr ydych wedi'u hennill hyd yn hyn yn dweud llawer wrthych am y cyfeiriad y dylech ei gymryd. Os ydych yn dal i deimlo'n ansicr, gofynnwch i ffrind neu berthynas yr ydych yn ymddiried ynddynt beth maen nhw'n meddwl yw eich cryfderau. Defnyddiwch y ddogfen isod i asesu pa sgiliau sydd gennych.

Microsoft Word DocumentWhat skills do you have?

Mae'r math hon o restr wirio yn helpu i hybu eich hyder, a hefyd yn eich helpu i gyflwyno'ch hun yn y ffordd orau bosib i gyflogwyr posib, drwy ganolbwyntio yn agosach ar realiti bob dydd yr hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud mewn swydd benodol. Er enghraifft, os ydych yn gweithio'n dda o dan bwysau neu yn drefnus iawn, mae hynny'n wych; ond os nad ydych, byddai'n well i chi beidio ag ymgymryd â gyrfa lle yr ystyrir y rhain yn sgiliau hanfodol.

Drwy wneud rhestr wirio o'ch cryfderau, eich profiad blaenorol, eich cymwysterau, eich hoffterau a'ch cas bethau - gallech gael eich synnu gyda faint o sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych eisoes!

Rydym hefyd wedi ei chynhyrchu ar ffurf PDF, rhag ofn eich bod am ei hargraffu ac ysgrifennu arni.  Llawrlwythwch hi fan hyn: Adobe Acrobat DocumentWhat skills do you have?

 

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800