
Ymchwilio'r farchnad
Mae cwmnïau, darlledwyr ac unigolion yn derbyn cannoedd o CVs a ffurflenni cais bob wythnos. Sefwch allan yn y dorf. Mae angen i chi ddeall y farchnad yr ydych yn gwneud cais iddi.
Mae marchnata personol effeithiol yn dibynnu ar nodi a bodloni angen - felly mae angen i chi wneud eich ymchwil. Po fwyaf yr ydych yn ei wybod am y ffyrdd y mae gwahanol sectorau yn mynd i'r afael â chynhyrchu, a deall chwaeth ac arddulliau presennol, yr hawsaf y bydd i chi benderfynu lle i ganolbwyntio eich ymdrechion - a'r mwyaf tebygol y bydd cyflogwr o gynnig gwaith i chi.
Mae cyflogwyr yn cwyno'n aml am nifer y ceisiadau diflas â diffyg gwybodaeth ynddynt y maent yn eu derbyn gan bobl yr ymddengys nad oes ganddynt lawer o syniad am y busnes. Dywed cyflogwyr nad oes gan ymgeiswyr syniad ynghylch natur wirioneddol eu swydd a sut y gallai arwain at gyfleoedd eraill a chynnydd o ran gyrfa.
Amlinellwch eich ymchwil gyda'r pwyntiau canlynol:
- Nodwch pa sector yr ydych yn ei dargedu - teledu, ffotograffiaeth, corfforaethol, ffilm, animeiddio ac ati.
- Dysgwch am sut mae prosiectau yn datblygu a sut mae'r timau a'r rolau o fewn pob sector yn cydgysylltu
- Dewch i wybod sut mae'r broses gomisiynu yn gweithio, a chofiwch gynnal ffocws cryf ar gwsmeriaid bob tro
- Aseswch pa fformatau cynhyrchu a rhaglenni sy'n llwyddiannus a sut gall eich sgiliau fod yn ddefnyddiol ar gynyrchiadau yn y dyfodol
- Casglwch a dadansoddwch ystadegau fel niferoedd gwylio, enillion swyddfeydd tocynnau ac ati i ddangos ehangder eich gwybodaeth
- Byddwch yn gyfarwydd â sefydliadau pwysig yn eich rhanbarth a'r manteision y gallant eu cynnig
Darllenwch fwy am ymchwilio i'r farchnad yn ein pdf ar ![]()
Marketing Yourself
If your computer has the relevant software, click the document icons or document titles to view the relevant document. Right-click (PC) or hold your mouse-button down (Mac) on the document icon/title, you'll be given the option to save the file to disk. If you don't have the necessary software to view the documents, take the above links to download free reader programs.