skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Gwnewch yn siwr fod eich sgiliau yn gweddu'r sgiliau mae cyflogwyr potensial eu hangen

Marchnata eich hun

Mae hunan-farchnata yn ymwneud â chodi eich proffil, gwneud i bobl ddymuno rhywbeth - yn yr achos hwn - eich gwasanaethau, eich sgiliau a'ch profiad.

Yn y diwydiannau cystadleuol iawn hyn, nid yw'n ddigon i gael y cymhwyster iawn yn unig, neu fod yn frwd iawn yn unig, neu gael profiad y tu ôl i chi yn unig. Mae angen yr HOLL bethau hyn arnoch - a mwy.

Mae angen defnyddio a dangos pob sgil, pob darn o wybodaeth, hyfforddiant a nodwedd bersonol i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy na'r person nesaf.  Mae angen llawer o amynedd; mae angen bod yn benderfynol iawn, ac mae angen mwy nag ychydig o lwc!

I farchnata eich hun yn effeithiol mae angen datblygu strategaeth. Eich nod yw nodi cyflogwyr posib a chyfateb eich sgiliau a'ch profiad i'w hanghenion. Byddant yn chwilio am bobl fydd yn gallu dangos peth profiad gwaith blaenorol, gwybodaeth frwd a diddordeb yn y diwydiant, a brwdfrydedd gwirioneddol i ddysgu wrth eu gwaith. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gadw eich llygaid a'ch clustiau ar agor a bod yn barod i gydio yn y cyfle pan ddaw.

Os ydych wedi datblygu ymhellach yn eich gyrfa, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun, er mwyn canolbwyntio ar eich nod o chwilio am swydd:

  • A ydych yn adnabod y bobl sy'n prynu'r math o gynnyrch/gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig?
  • A ydych yn gwybod sut i gysylltu â hwy?
  • A ydych yn ymwybodol o foeseg broffesiynol?
  • A ydych ar y blaen o ran datblygiadau yn y diwydiant?
  • A oes angen arnoch asiant neu Diary services?
  • A ydych yn gwybod sut i lunio amcanbris? (e.e. atodlenni, cyfraddau ffioedd)
  • A ydych yn gwybod sut i gyd-drafod â chyflogwyr neu gleientiaid posib?
  • A oes gennych systemau yn eu lle i nodi cyfleoedd gwaith newydd?
  • A ydych yn gofyn am adborth gan gleientiaid ynghylch eich gwaith/perfformiad proffesiynol?
  • A ydych yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â'ch cleientiaid cyfredol?

Dysgwch o brofiadau gweithwyr proffesiynol eraill - In your experience, what are the best ways of promoting and marketing your skills?. Rydym wedi casglu'r holl wybodaeth hon mewn dogfen i chi ei lawrlwytho: Adobe Acrobat DocumentMarketing Yourself

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800