skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Johnny P, un o enillwyr y Skillset Millennium Awards a chyflwynydd CD:UK

Gweithio mewn Radio

Gwelir radio gan rai fel 'brawd bach' teledu. Peidiwch â dweud unrhyw beth o'r fath o flaen gweithwyr y diwydiant! Mae radio yn unigryw ac yn falch o'i sgiliau arbennig, a'r gwasanaeth uniongyrchol, agos atoch chi y mae'n ei ddarparu. Yn aml bydd pobl radio yn datblygu eu rhaglen o'r syniad i ddarlledu ar eu pen eu hunain yn llwyr. Bydd y gohebydd neu'r cynhyrchydd yn gallu recordio sain, ei chymysgu, ei rhoi i mewn i raglen gyfan sy'n para am yr amser gofynnol a'i throsglwyddo ar gyfer ei darlledu.

Mae llawer o waith radio yn fyw. Mae hyn yn gofyn am dalentau gwahanol iawn i'r rheiny sydd eu hangen ar gyfer teledu, y mae rhan fwyaf ei raglenni wedi'u rhag-recordio. Fel cyflwynydd, cyhoeddwr neu DJ ar yr awyr, mae angen i chi allu meddwl yn gyflym, siarad yn glir a mynegi eich hun yn dda. Bydd angen gwybodaeth gyffredinol ardderchog arnoch a natur gyfforddus oherwydd gallech ddod ar draws unrhyw un ar unrhyw ddiwrnod penodol - o'r Prif Weinidog i gerddor ifanc sy'n dechrau ar ei yrfa.

O safbwynt cynhyrchwyr, byddwn chi a'r cyflwynydd yn gweithio oriau rhyfedd, yn aml dros y penwythnosau neu dros nos. Bydd disgwyl i chi weithio'r oriau angenrheidiol er mwyn cyflawni'r gwaith. Peidiwch â disgwyl cyrraedd adref ar gyfer swper bob nos!

Mae'r gwaith yn rhannu'n dri phrif faes, a dylai'ch hyfforddiant gael ei deilwra ar gyfer pa un bynnag o'r meysydd hyn yr ydych yn dymuno gweithio ynddynt ym myd Radio.

SWYDDI RADIO:

 

Cynhyrchu (cynnwys)

Cynhyrchu (technegol)

Gweinyddu, Cefnogi a Gwerthu


Cynhyrchu (Cynnwys)
(Rheolwr Gorsaf, Rheolwyr Rhaglenni, Cynhyrchydd, Newyddiadurwr, Gohebydd, DJ, Cyflwynydd, Cyflwynydd Newyddion, Golygydd Newyddion ac ati.)
Rheolwyr Gorsafoedd yw Rheolwyr Rhaglenni radio masnachol a lleol. Maent yn penderfynu ar yr amserlenni dyddiol ac yn cysylltu â'r bobl allweddol eraill. Mae'r darlledwr a'u timau cynhyrchu yn penderfynu ar gynnwys dyddiol eu sioeau ac yn derbyn cefnogaeth gan staff y llyfrgell, y rhedwyr a'r ymchwilwyr. Yng ngorsafoedd rhwydwaith cenedlaethol y BBC, yn gyffredinol penderfynir ar raglenni nad ydynt yn ymwneud â digwyddiadau cyfoes o fewn amserlen fwy hir dymor, sef wythnosau neu fisoedd cyn eu darlledu, mewn ymgynghoriad â rheolwyr golygyddol yn Llundain).

Mae cynhyrchu cynnwys yn isrannu yn ddau brif faes - cyflwyno a chynhyrchu radio cerddoriaeth, a radio llafar.

Er mwyn dod yn gyflwynydd rheolaidd ar orsaf gerddoriaeth rhaid i chi feddu ar wybodaeth drylwyr o'ch pwnc, rhaid i chi fod yn groyw ac yn hawdd gweithio gyda chi.  Mae synnwyr digrifwch, ymdeimlad o hwyl ac eto parodrwydd i chwarae o fewn y rheolau yn hanfodol. Mae'r un peth yn wir ar gyfer cynhyrchwyr mewn gorsafoedd cerddoriaeth; mae angen arnoch y wybodaeth arbenigol a'r sgiliau i'w rhoi ar waith, wrth weithio ochr yn ochr â'r cyflwynwyr.

Mewn radio llafar, a newyddiaduraeth newyddion yn benodol, byddwch naill ai yn gyflwynydd, yn gynhyrchydd, yn ohebydd neu'n gynorthwyydd cynhyrchu. Mae'r timau o staff cynhyrchu ar gyfer sioeau llafar yn aml yn syndod o fach. Efallai bod gan raglen Today Radio  4 30 neu fwy o bobl yn gweithio arni, ond eithriad ydy hynny. Bydd gan fwyafrif y sioeau llafar gyflwynydd, cynhyrchydd, ymchwilydd a chynorthwyydd darlledu (a allai gyflawni rôl dechnegol hefyd wrth recordio yn y stiwdio ac ar leoliad) - os ydych yn lwcus! Disgwylir i'r bobl hyn, ynghyd â rheolwr stiwdio neu beiriannydd, greu sioe  ar bynciau cyfoes neu sioe newyddion tair awr o hyd bob dydd. Mae'n waith caled a gall fod yn ddi-baid, ond gall ddod â boddhad mawr hefyd.

Mae rheolau gwahanol mewn drama, yn nhermau staffio a gofynion yr amserlen, ond mae'n gyfyngedig iawn ar radio - gan ymddangos bron yn ddieithriad ar BBC Radio 3 a 4 yn unig.

Mae newyddiaduraeth chwaraeon yn dilyn yr un rheolau â newyddiaduraeth newyddion. Mae cyflwyno chwaraeon erbyn hyn yn faes lle mae llawer o gyn arwyr chwaraeon wrth y llyw, fel Gary Lineker a Jonathan Agnew.

Maes arall o radio llafar yw gwneud eitemau nodwedd a rhaglenni dogfen. Ceir y rhain bron yn ddieithriad ar rwydweithiau lleol a chenedlaethol y BBC yn unig; cynhyrchir y mwyafrif ohonynt gan staff mewnol y BBC, ond oherwydd bod radio'r BBC yn gweithredu cwota gwirfoddol o raglennu i'w gwneud y tu allan i'r Gorfforaeth, mae cyfleoedd hefyd ar gyfer gweithwyr llaw-rydd a chwmnïau cynhyrchu annibynnol.

Mae dau lwybr addysgol posib i mewn i radio: gradd mewn unrhyw bwnc, a Diploma ôl-raddedig neu MA mewn Cynhyrchu Radio, neu radd mewn Cynhyrchu Radio neu'r Cyfryngau, yn cynnwys radio. Ceir cyrsiau byr hefyd mewn Cynhyrchu Radio. Dylech fod yn gwneud hyn oll, tra'n dangos eich dyhead i fynd i fyd radio trwy ennill cymaint o brofiad â phosib o gynhyrchu radio ar ba bynnag orsafoedd sy'n fodlon eich derbyn. Fe welwch fod llawer o orsafoedd yn croesawu pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â'r diwydiant. Cysylltwch â'ch gorsafoedd lleol a gofynnwch sut y gallwch gymryd rhan.

Cynhyrchu (Technegol)
Peirianwyr sy'n allweddol yn y maes hwn, ac fel arfer maent yn amlbwrpas ar draws sawl rôl peirianneg, yn enwedig mewn gorsafoedd lleol a masnachol. Y peirianwyr sy'n sicrhau bod yr orsaf radio yn gweithio'n iawn. Maent yn sicrhau bod yr holl offer mewn cyflwr da a bod y signal yn cyrraedd y trosglwyddydd yn y modd cywir. Yn y BBC, mae Rheolwyr Stiwdio yn cyfuno sgiliau technegol a chreadigol; maent yn edrych ar ôl rhedeg y stiwdios, yn delio â'r holl allbwn byw, a hefyd yn ymwneud â chamau olaf cymysgu sain gyffredinol rhaglenni a rag-recordiwyd.

Bydd rheolwyr gorsafoedd yn cynnal offer ac yn monitro darlledu'r signal. Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn modd mwy ymarferol, er enghraifft pan fydd darllediad allanol mawr ar y gweill neu fod trafodaeth stiwdio fawr yn digwydd gyda nifer o westeion a galwadau yn dod i mewn o'r tu allan.

Mae'r hyfforddiant ar gyfer y rolau hyn drwy gyrsiau a chymwysterau cydnabyddedig.

Gweinyddu, Cefnogi a Gwerthu
Y timau cefnogi craidd yw'r TÎm Cyllid, Personél, Hyrwyddiadau a'r Dderbynfa. Mewn radio masnachol, mae'r TÎm Gwerthu yn hanfodol bwysig hefyd, sy'n gwerthu'r amser ar yr awyr ac yn cydlynu'r cynnwys hysbysebu.

Mae angen ar bob gorsaf radio ei dÎm cefnogi. Mae'r adran Bersonél, yr adran Gyllid, y Llyfrgellydd Recordiau a'r Derbynnydd oll â rolau allweddol. Yn y sector masnachol, byddwch hefyd yn dod ar draws y TÎm Gwerthu. Wedi'u harwain gan Reolwr Gwerthu, byddant yn cynnwys nifer o Swyddogion Gweithredol Gwerthu fydd yn cwrdd â'r cleientiaid, sefydlu sesiynau recordio ar gyfer yr hysbysebion lleol a'u cofnodi ar gyfer eu darlledu. Daw hysbysebu cenedlaethol gan ba bynnag Dy Gwerthu Cenedlaethol a fabwysiadwyd gan yr orsaf.

Bydd yr holl rolau hyn yn hyfforddi yn y modd arferol, ac yna'n dod i mewn i radio drwy swyddi gwag a hysbysebwyd yn y wasg. Fel arfer bydd staff gwerthu yn cysgodi a dysgu eu crefft tra'n gweithio.

 

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800