skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Gweithio ar y set - bwrdd stori Teledu

Swyddi mewn Hysbysebion

Mae tri phrif faes gwaith o fewn y sector hysbysebion, ac mae gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi gofynnol a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.

 

Cynhyrchu (Cynnwys)
Mae'r rolau yn cynnwys: Swyddog Gweithredol Cyfrifon, Swyddog Gweithredol Hysbysebu, Comisiynydd, Swyddog Gweithredol Cleientiaid (a allai fod yn rhywun fel Pennaeth Marchnata neu Bennaeth Cyfathrebu), Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr, Newyddiadurwr, Ymchwilydd, Awdur. Cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, sgriptwyr a dylunwyr celf yw'r rolau allweddol yn y maes hwn.

 

Mae'n anodd cael gwaith. Anaml iawn yr hysbysebir swyddi. Mae gyrfaoedd yn cael eu datblygu drwy ddyfalbarhad neu lwc neu gysylltiadau. Mae angen i bobl weithio mewn meysydd eraill - teledu, corfforaethol, ffilm (os yn bosib), yn wir unrhyw sector - a cheisio parhau i gael gwaith mewn Hysbysebion drwy gysylltu drwy lythyr a ffôn, cadw ar y blaen o ran datblygiadau mewn Hysbysebion a meithrin cysylltiadau er mwyn cael arsylwi neu gael profiad gwaith neu fod yn gynorthwyydd os yn bosib. Yn aml mae'n dibynnu ar ba mor frwd ydych, neu ba mor ffodus.


Cynhyrchu (Technegol)
Gall llwybrau gyrfaol fod yn symlach yn y maes hwn nac ym maes Cynhyrchu Cynnwys. Mae sgiliau technegol penodol a datrys problemau technegol yn allweddol; os nad oes gennych alluoedd o'r fath i lefel uchel, yna ni fyddwch yn gweithio. (Yn y maes hwn mae'r rolau yn debyg iawn i rolau'r diwydiant ffilm - Camera, Sain, Goleuo, Golygu, Celf, Effeithiau Arbennig ac ati - ac yn y maes hwn mae mwyafrif y symud rhwng hysbysebion a sectorau eraill yn digwydd.) Yn draddodiadol byddai rhywun yn hyfforddi yn y swydd ym maes teledu neu gorfforaethol -fel cynorthwyydd camera, neu gynorthwyydd sain neu olygydd cynorthwyol er enghraifft - ac yna byddai pobl yn mynd ar eu liwt eu hunain, neu'n cael gwaith fel y prif swyddog eu hunain.

Mae technoleg fideo a digidol wedi golygu nad yw “cynorthwyydd” yn rôl gyffredin bellach, ac mae'n rhaid i fwy a mwy o bobl hyfforddi ar gyfer rolau technegol mewn Ysgolion Ffilm neu Adrannau Prifysgolion, neu gyda gweithgynhyrchwyr offer neu dai adnoddau. Ond mae Hysbysebion yn dal i ddefnyddio Cynorthwywyr! Mae cyfleoedd ar gyfer Cynorthwywyr dibynadwy mewn perthynas â mwyafrif y rolau mewn Hysbysebion, ac efallai mai dyma'r llwybr gorau i bobl â diddordeb yn y maes gwaith hwn i'w dargedu. Yn ogystal â'r sgiliau technegol, bydd cyflogwyr a chynhyrchwyr sy'n cyflogi pobl camera, sain, golygyddion ac ati yn edrych am hyblygrwydd, personoliaeth gyfeillgar, agwedd “eiddgar” a'r gallu i fod yn gyfeillgar neu'n gwbl dawel pan gyda chleientiaid neu'n agos atynt!

 

Gweinyddu, cefnogi, swyddi cyfferdinol

Fel pob diwydiant, mae hysbysebion yn dibynnu'n helaeth ar gorff o staff cefnogi medrus iawn fel Rheolwyr Cynhyrchu, Cyfrifwyr Cynhyrchu, Cyfreithwyr, Cynorthwywyr Cynhyrchu ac ati. Mae'r maes gwaith hwn yn gymharol gonfensiynol ar gyfer y rhan fwyaf o rolau, gan fod cwmnïau Hysbysebion yn gweithredu yn yr un ffordd â'r mwyafrif o fusnesau eraill. P'un a ydych am fod yn ysgrifenyddes neu'n gyfreithiwr, yn gyfrifydd neu'n rheolwr personél, byddwch yn hyfforddi yn y ffordd arferol.

 

Angen ateb i gwestiwn?
Os oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gweithio yn y cyfryngau, defnyddiwch ein gwasanaethau gyrfaol i gael ateb.  Ffoniwch ein llinell gymorth, neu anfonwch gwestiwn i un o'n cynghorwyr drwy ein gwasanaeth e-bost, rhad ac am ddim.  Ewch i dudalen Gwasanaethau gyrfaoedd Skillset am fwy o wybodaeth.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800