
Proffiliau swyddi
Mae rhai swyddi yn swnio'n ddiddorol, ond pan fyddwch yn darganfod yr hyn y maent yn ei olygu mewn gwirionedd, efallai y byddwch yn penderfynu nad ydynt yn iawn i chi. Neu fel arall - efallai y dewch i wybod am swydd nad oeddech yn sylweddoli ei bod yn bodoli, sy'n eich gweddu i'r dim.
Cyn i chi roi eich bryd ar fod y Chris Moyles neu'r Gurinder Chadha nesaf, defnyddiwch ein proffiliau swyddi i weld beth yn union sydd ynghlwm wrth y swyddi hyn. Mae Skillset wedi datblygu cannoedd o'r proffiliau hyn mewn ymgynghoriad uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol go iawn.
Mae'r rhan fwyaf o swyddi yn golygu gweithio fel rhan o dîm, felly mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio'n rhwydd gydag eraill yn nodwedd gwbwl hanfodol ar gyfer gweithio yn y cyfryngau. Dro ar ol tro, mae cyflgwyr yn cyflogi pobl y maent wedi gweithio gyda hwy o'r blaen. Pam? Yr ateb mwyaf cyffredin yw, ‘maen nhw'n gwneud eu swydd yn dda ac mae'n hawdd gweithio gyda nhw'.
Edrychwch ar ein proffiliau swyddi a dechreuwch ddyfeisio eich llwybr gyrfa!
Gweithio mewn Animeiddio
Yn y tudalennau hyn, mae modd i chi archwilio'r gwahanol agweddau ar gynhyrchu animeiddio, a darganfod mwy am y sgiliau a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth yrfa yn y sector heriol hwn.
Read MoreProffiliau Swyddi Llun-Ddelweddu
Yr holl swyddi sydd ar gael yn y sector llun-ddelweddu, a'r hyn y maent yn ei olygu.
Read MoreProffiliau Swyddi ar gyfer y Cyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd y Proffiliau Swyddi hyn gan arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant i ddeall y gwahanol swyddi, a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.
Read MoreProffiliau Swyddi Gêmau Cyfrifiadurol
Datblygwyd y Proffiliau Swyddi hyn gan arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant i ddeall y gwahanol swyddi, a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.
Read MoreSwyddi Teledu
Mae'r straen yn amlwg, gyda llawer o dimau gwahanol yn cydweithio i derfynau amser anhygoel er mwyn cael rhaglen deledu ar yr awyr. Ond pwy sy'n gwneud beth, a beth sy'n dod gyntaf? Dysgwch bopeth am y gwahanol rolau fan hyn.
Read MoreProffiliau Swyddi Ffilm
O ddyn campau i 'steadicam', cyfansoddwr i arlwywr - pa swydd mewn ffilm yw'r un i chi?
Read MoreSwyddi mewn Ôl-gynyrchu
Darllenwch am y Proffiliau Swyddi ar gyfer Ôl-gynhyrchu sydd newydd eu datblygu, gyda chyfoeth o wybodaeth am y sector, llwybrau gyrfa a llawer mwy.
Read MoreGweithio mewn Radio
'Brawd bach' teledu? Peidiwch â dweud unrhyw beth o'r fath o flaen gweithwyr y diwydiant! Mae radio yn unigryw - mae'n cynnwys sgiliau arbennig, ac yn darparu gwasanaeth uniongyrchol, agos atoch.
Read MoreSwyddi mewn Hysbysebion
Mae tri phrif faes o fewn y sector hysbysebion, ac mae gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi gofynnol a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.
Read MoreLlogi stiwdios ac offer: y ffeithiau
Mae cwmnïau llogi stiwdio/offer yn cyflenwi offer a gwasanaethau technegol arbenigol i bob sector o'r diwydiannau clyweledol.
Read MoreRhedwyr: diwydiant wrth ddiwydiant
Yn y diwydiant ffilm y dechreuodd y cysyniad o'r Rhedwr, ond mae'r rôl wedi lledu ar draws sectorau eraill, lle mae llawer o wahanol fathau o Redwr.
Read MoreSwyddi Cynhyrchu Corfforaethol
Mae'r math o waith mewn Corfforaethol yn ei hanfod yn rhannu'n dri maes, gyda gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi gofynnol a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.
Read More