
Tâl
Byddai pawb yn hoffi gwybod faint o arian y mae'n bosib iddynt ei ennill. Mae'n bwysig sylweddoli, felly, bod cyfraddau tâl o fewn y diwydiannau clyweledol yn amrywio'n sylweddol, gan ddibynnu ar ble rydych yn byw. Y rheswm am hyn yw'r gwahaniaethau mewn galw lleol am sgiliau, yn ogystal â chostau byw.
Wrth dderbyn gwaith, gwiriwch eich statws cyflogaeth. Defnyddir termau gwahanol - ee gweithiwr, gewithiwr achlysurol, gweithiwr llawrydd, hunangyflogedig - gyda goblygiadau ar eich hawliau a'ch statws treth.
Canllawiau gan undebau a gildiau
Mae undebau a gildiau yn darparu cyngor clir ar gyfraddau tâl cenedlaethol a rhanbarthol, ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr llawrydd a gweithwyr cyflogedig. Mae'r cyfraddau hyn yn cynnwys costau teithio, oriau gwaith, egwyliau bwyd a thâl gwyliau.
- BECTU yw'r undeb annibynnol ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes darlledu, ffilm, theatr, adloniant, hamdden, y cyfryngau rhyngweithiol a meysydd perthynol. Gellir cael gafael ar gyfraddau a gytunwyd gan undebau oddi wrthynt, ac maent yn cynnig gwasanaeth "cyfraddau cyfredol" i aelodau.
- Mae gan y National Union of Journalists (NUJ) gyfraddau cyfredol ar gyfer newyddiadurwyr.
- Mae gan The Writers' Guild of Great Britain (WGGB) gyfraddau ar gyfer i ysgrifenwyr ym mhob un o feysydd ffilm a darlledu. Argymhellion lleiafswm ydynt. Mae ysgrifenwyr yn gallu, ac yn llwyddo, i ennill mwy.
- Mae'r Musicians' Union (MU) yn cynrychioli dros ddeg ar hugain o filoedd o gerddorion sy'n gweithio ym mhob sector y busnes cerddoriaeth.
- Equityyw'r unig undeb llafur sy'n cynrychioli artistiaid o bob maes ym myd y celfyddydau ac adloniant.
- Mae'r Association of Photographers (AOP)yn gymdeithas lafur o ffotograffwyr proffesiynol, sy'n ymgyrchu am hawliau ffotograffwyr.
Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
Mae gan bob gweithiwr yn y DU hawl i ennill y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol:
|
|
|
|
|
|
Sylwer: nid oes gan brentisiaid dan 19 oed hawl i'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol. Hefyd, nid oes gan brentisiaid sy'n 19 oed neu'n hyn, ac yn cwblhau 12 mis cyntaf eu prentisiaeth, hawl i'r Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol.
Ewch i wefan Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR)am gwestiynau cyffredin am weithwyr ifanc a rheoliadau amser gweithio.
Tâl gohiriedig?
Ewch am gyngor cyn cytuno i unrhyw gynllun tâl gohiriedig. Mae llawer o bobl nad ydynt byth yn derbyn eu ffioedd, hyd yn oed pan fydd y cynhyrchiad yr oeddent yn gweithio arno yn gwneud arian.
Gweithwyr llawrydd a busnesau bach
Bydd gan yr Enterprise Directorate wybodaeth ar sut i ddechrau busnes bach. Os ydych yn weithiwr llawrydd, mae hyn yn eich cynnwys chi.
Ceir hefyd sefydliadau sy'n darparu cyngor, ac weithiau arian, ar gyfer pobl ifanc sydd am sefydlu busnes, er enghraifft Ymddirideolaeth y Tywysog.
