
Treth
Cyflogir gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau creadigol o dan amrywiaeth o gontractau a thelerau ac amodau – gweithiwr, gweithiwr achlysurol, gweithiwr llawrydd, hunangyflogedig etc. Mae gan bob cyflogaeth oblygiadau gwahanol ar eich hawliau, eich statws treth a'r math o ddidyniadau y gallwch eu gwneud.
Cyflogedig neu hunangyflogedig?
Gall rhai pobl fod yn rhannol gyflogedig ac yn rhannol hunangyflogedig wrth iddyn nhw groesi sectorau, neu efallai eu bod yn ychwanegu at eu hincwm drwy weithio mewn sector cwbl wahanol. Ceir canllawiau Cyllid & Thollau EM ar bwy sy'n cael eu hystyried yn hunangyflogedig a phwy sy'n cael eu hystyried yn gyflogedig. Nid yw'r rhain yn gwbl derfynol – gallwch herio penderfyniad Cyllid & Thollau a gofyn am adolygiad o'ch statws treth.
Mae cymdeithasau ac undebau llafur hefyd yn gallu cynnig cyngor ar hawliau cyflogaeth. Mae BECTU yn darparu canllaw treth gwaith llawrydd i'w aelodau. Mae hwn yn cynnwys cyngor ar y meini prawf cyffredinol ar gyfer penderfynu eich statws cyflogaeth. Ceir rhestr hefyd o raddau derbyniol Rhestr D ar gyfer y diwydiannau darlledu a ffilm.
Cwmnïau cyfyngedig
Os ydych yn bwriadu dechrau cwmni cyfyngedig, bydd arnoch angen cyngor ar faterion treth. Edrychwch ar Rydw i am sefydlu cwmni cyfyngedigar wefan Cyllid & Thollau EM.
Bydd hefyd angen i chi gyflogi cyfrifydd i lunio eich cyfrifon blynyddol a rhoi cyngor pellach i chi.
