skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Ffeindiwch allan os ydych chi angen cofrestru at gyfer TAW

TAW

Treth Ar Werth (TAW) yw'r dreth a roddir ar y gwerth o ganlyniad i bob cyfnewid neu weithrediad ariannol.

Os ydych yn rhedeg busnes, ac mae eich trosiant trethadwy, nid eich elw yn unig, yn fwy na'r trothwy cofrestru, rydych yn ‘berson trethadwy'. Rhaid i chi wedyn gofrestru ar gyfer TAW. Os nad ydych chi'n cofrestru ar yr adeg iawn, gallech dderbyn dirwy.

 

Rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW os:

a) Ydych ar Restr "D" (yn hunangyflogedig a llai nag 80% o'ch incwm yn dod o un ffynhonnell), neu'n gweithredu fel cwmni cyfyngedig

Ac

b) Ar ddiwedd unrhyw fis, mae cyfanswm gwerth y cyflenwadau trethadwy rydych wedi'u gwneud yn ystod y deuddeg mis diwethaf neu lai, yn fwy na'r trothwy presennol o £61,000.

Neu

c) Ar unrhyw adeg mae gennych seiliau rhesymol i ddisgwyl y bydd gwerth eich cyflenwadau trethadwy'n fwy na'r trothwy cofrestru presennol o £61,000 - yn y deg diwrnod ar hugain nesaf yn unig.

I gofrestru ar gyfer TAW rhaid i chi gwblhau Ffurflen TAW 1, a'i hanfon at Gyllid & Thollau o fewn 30 diwrnod o unrhyw un o'r uchod. Mae ffurflenni cofrestru ar gael o'ch swyddfa TAW leol neu ar wefan Cyllid & Thollau EM.

Gallech gwblhau'r ffurflen hon eich hun neu ofyn i'ch cyfrifydd ei chwblhau. Byddwch wedyn yn derbyn rhif cofrestru TAW, a dylech ei gynnwys ar bob anfoneb yn y dyfodol. Rhaid i chi wedyn ychwanegu 17.5% TAW at eich ffioedd am holl waith y dyfodol, ee:

Ffi:

£1,000

TAW yn 17.5%:

£175

Cyfanswm anfoneb:

£1,175


Parhau i dalu TAW - eich cyfrifoldeb chi
Bob tri mis rhaid i chi (neu'ch cyfrifydd) gwblhau ffurflen TAW yn dangos y TAW rydych wedi'i hanfonebu, llai y TAW rydych wedi'i dalu (am logi neu brynu nwyddau neu offer etc). Rhaid talu'r swm i Dollau Tramor a Chartref o fewn 30 diwrnod o ddiwedd y chwarter TAW.

Ceir cosbau llym am oedi neu beidio â chofrestru neu gyflwyno ffurflenni TAW. Os ydych yn cyflawni'r meini prawf am gofrestru ar gyfer TAW, dylech gofrestru ar unwaith a chyflwyno eich ffurflenni TAW.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800