skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Os nad oes gennych rif YG eisoes, rhaid i chi wneud cais am un cyn gynted â'ch bod yn dechrau gweithio

Yswiriant Gwladol

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol (YG) eisoes, rhaid i chi wneud cais am un cyn gynted â'ch bod yn dechrau gweithio. Ffoniwch linell gymorth Canolfan Byd Gwaith ar 0845 600 0643 i wneud cais.

Bydd gwasanaeth dyrannu YG yn dilysu os oes angen rhif arnoch, ac yn trefnu cyfweliad profi hunaniaeth i chi.

 

Gweithwyr cyflogedig:

Enillion yr wythnos

Cyfradd

Cyfraniad YG


hyd at £670


11% o'r enillion


Dosbarth 1


dros £670


1% yn ychwanegol


Dosbarth 1

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn a gontractiwyd allan gan eich cyflogwr, byddwch yn talu llai.

Gweithwyr llawrydd neu hunangyflogedig:

Enillion blynyddol

Cyfradd

Cyfraniad YG


Llai na £5,225


£2.20 cyfradd wythnosol


Dosbarth 2


£5,225 - £34,840


8% o'ch elw trethadwy


Dosbarth 4


Dros £34,840


1% yn ychwanegol


Dosbarth 4

Mae gweithwyr llawrydd yn aml yn anghofio bod angen iddynt drefnu i dalu eu cyfraniadau YG Dosbarth 4. Gall hyn arwain at dipyn o fraw ar ddiwedd y flwyddyn pan fydd eu cyfrifydd yn anfon eu cyfrifiad treth atynt. Gallwch wirio cyfraddau YG presennol ar wefan Cyllid & Thollau EM.

Yn gyffredinol, dylai penderfyniadau ar eich statws YG fod yn gyson â phenderfyniadau ar eich statws treth. Felly, os ydych yn hunangyflogedig, byddwch fwy na thebyg yn Rhestr D ar gyfer treth a Dosbarth 2 neu 4 ar gyfer YG. Os ydych yn Talu Wrth Ennill (PAYE) ar gyfer treth, byddwch fwy na thebyg yn Nosbarth 1 ar gyfer YG.

Am ragor o gyngor, gweler canllaw Cyllid & Thollau EM Eich Rhif Yswiriant Gwladol , neu cysylltwch â'ch swyddfa dreth leol. Gall aelodau BECTU gael gwybodaeth o'u Swyddfa Ymchwil hefyd.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800