
Hawlfraint
Mae hawlfraint yn gallu bod yn fater anodd yn y diwydiannau creadigol.
Rhaid i'r rhan fwyaf o bobl drafod eu syniadau creadigol wrth ddatblygu prosiectau, neu wrth geisio am gomisiynau, neu wrth gael cyfweliad am swydd. Ac mae llawer o gyflogwyr yn gofyn i weithwyr lofnodi contractau sy'n trosglwyddo hawlfraint am bopeth y byddant yn gweithio arno yn ystod eu cyflogaeth.
Mae hwn yn faes cymhleth o'r gyfraith sy'n gallu arwain at ddadlau diangen. Fodd bynnag, os ydych yn ofalus o'r cychwyn, mae posib amddiffyn eich syniadau, a sefydlu hawlfraint.
- Mae Pwyllgor Hawlfraint BECTU wedi paratoi llyfryn, sydd am ddim i aelodau, gyda chyngor ar gontractau a hawlfraint. Mae'n cynnwys syniadau ar gydweithio, contractau, prynu hawliau, hawliau moesol ac ildiadau hawl, a sut i lofnodi'ch gwaith.
- Mae gan yr NUJ ganllaw ‘Ten things every freelance should know on copyright'.
- Gall y Llinell Gymorth ar Gyngor Hawlfraint a Gwrth-Ladrad - 0845 603 4567 - roi cyngor i chi ar faterion eiddo deallusol a gallwch roi gwybod am unrhyw dorcyfraith hawlfraint honedig
- Mae Copyright Info yn fan cyswllt ac yn rhoi arweiniad hawlfraint am unrhyw gynnwys digidol.
- Mae gwefan y Ffederasiwn yn Erbyn Lladrad Hawlfraint (FACT) yn adnodd arall sy'n cynnwys newyddion, deddfwriaeth a chysylltiadau defnyddiol.
Mae ffynonellau cyfeirio defnyddiol eraill:
- Deddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau Act 1988 ar gael o Lyfrfa Ei Mawrhydi
- The Writers and Artists Yearbook, a gyhoeddir yn flynyddol gan A&C Black Cyf
- Rights Clearances for Film and Television Productions a The Art of the Deal a gyhoeddir gan PACT
