skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Edrychwch ar ôl eich busnes

Mireinio eich sgiliau busnes

Yn aml, mae pobl yn dweud bod gweithio yn y diwydiannau clyweledol naill ai'n ‘wledd neu'n newyn' - ond drwy feddwl ymlaen llaw, gallwch wneud pethau'n haws.

Mae gweithio'n llawrydd, neu redeg busnes, yn gofyn am ystod o sgiliau ychwanegol ar ben y sgiliau, y cynnyrch a'r gwasanaethau rydych yn eu creu neu'n eu gwerthu, gan gynnwys:

 

 Cyllid

  • Llunio briff neu gontract
  • Trafod ffioedd a chytuno ar delerau ac amodau
  • Anfonebu a mynd ar ôl anfonebau sydd heb eu talu
  • Talu cyfraniadau treth, Yswiriant Gwladol a TAW yn rheolaidd
  • Talu biliau a mantoli eich llif arian
  • Gwybod faint i dalu i chi eich hun
  • Trefnu eich pensiwn eich hun (neu drefnu un drwy eich undeb)

Gweinyddiaeth

  • Cadw cofnodion
  • Gweithredu pecynnau meddalwedd busnes safonol
  • Ymateb i gysylltiadau busnes
  • Rheoli amser yn effeithiol a rheoli eich dyddiadur
  • Rhwydweithio a hunan-farchnata

Mae'r rhan fwyaf o'r uchod yn ymwneud â bod yn drefnus a sefydlu arferion da. Meddyliwch am eich hunan fel busnes. Dysgwch am y sgiliau busnes craidd sydd eu hangen arnoch i lwyddo drwy ymweld â'r gwahanol adnoddau rydym wedi'u casglu i chi yn y cysylltiadau cefnogi busnes.

Os ydych yn cael anhawster gyda hyn, efallai y dylech ystyried cwrs sgiliau busnes arbenigol. Er enghraifft, mae Academi'r Busnes Ffilm yn y Cass Business School, Academi Sgrîn Skillset, yn cynnal nifer o gyrsiau byr ar y sgiliau busnes gwahanol sy'n angenrheidiol yn y diwydiant ffilm.

Mae Skillset, y darlledwyr, Asiantaethau Sgrîn Rhanbarthol, cymdeithasau masnach ac undebau llafur yn cynnal digwyddiadau ledled y DU, gyda'r nod o'ch helpu i ymdopi â'ch busnes. Mae llawer o'r digwyddiadau addysgiadol hyn am ddim, ac yn darparu cyfleoedd rhwydweithio da hefyd.

 

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800