skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Bydd rhwydweithio yn help i gadw'ch gyrfa i redeg yn esmwyth

Cwrdd â phobl, rhannu syniadau

Mae cyfathrebu yn allweddol yn y cyfryngau creadigol, felly adeiladwch grwp o gysylltiadau defnyddiol y gallwch alw arnynt am help, gyngor, neu swyddi pan fydd angen.

Os ydych wedi gwneud eich ymchwil a'ch bod yn gallu dangos bod y wybodaeth berthnasol gennych, bydd pobl yn sylwi arnoch ac fe welwch fod eich rhwydwaith yn dechrau gweithio i chi; dros amser, byddwch yn cynyddu'ch gwybodaeth o'ch proffesiwn a gwneud mwy fyth o gysylltiadau defnyddiol.

Wrth gwrs, mae rhwydweithio yn gweithio'r ddwy ffordd, felly byddwch yn barod i rannu syniadau a gwybodaeth. Gofynnwch am eu prosiectau presennol a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol - a byddwch yn barod i'w trafod yn wybodus a gyda brwdfrydedd. Bydd rhai o'ch perthnasoedd creadigol pwysicaf yn dechrau'n aml drwy sgyrsiau hamddenol.

Gwnewch ymdrech wirioneddol i fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau, agoriadau neu ddiwrnodau hyfforddiant lle y medrwch gwrdd â'r bobl y mae angen i chi ddod i'w hadnabod. Ar ddechrau eich gyrfa, efallai y byddwch yn teimlo eich bod ond yn cwrdd â phobl â chyn lleied o brofiad â chi. Ond cofiwch, maent hwy ar yr un daith i fyny'r ysgol yrfa a chi, ac efallai y byddant mewn sefyllfa i gyflogi yn gynt nag yr ydych yn sylweddoli.

Os ydych yn nerfus ynglyn â mynd ar ein pen eich hun, ewch gyda rhywun arall sydd â diddordeb, neu ceisiwch gwrdd â rhywun yno sydd mewn sefyllfa debyg i chi.

Mae ystod eang o ddigwyddiadau y gallech eu mynychu, fel:

  • Agoriadau arddangosfeydd ffotograffiaeth
  • Gwyliau'r diwydiant e.e. Gwyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, Gwyl Ffilm Llundain, Brief Encounters, Gwyl Animeiddio Bradford, Yr Wyl Animeiddio a Gemau Cyfrifiadurol Ryngwladol, Broadcast LIVE
  • Dangosiadau o ffilmiau (mae rhai gyda sesiwn cwestiwn ac ateb ar ôl y ffilm)
  • Diwrnodau hyfforddiant Asiantaethau Sgrîn Rhanbarthol neu ddigwyddiadau fforymau cyhoeddus eraill

I'ch helpu pan fyddwch yn cyrraedd:

Cofiwch eich bod yn:

  • meddwl am yr hyn sydd gennych i'w gynnig a'r hyn sydd gennych i'w ddysgu
  • bod yn agored i awgrymiadau a chyfleoedd
  • cyflwyno eich hun, mae pobl eraill yn y digwyddiad i rwydweithio hefyd
  • gofyn i'r cyfranogwyr eraill a'r tiwtoriaid am eu gwaith a'u cysylltiadau
  • cyfnewid cardiau busnes/rhestri cysylltiadau
  • cadw cofnod o pryd a ble y gwnaethoch gwrdd â phobl, a'r hyn a drafodwyd, hyd yn oed os mai ychydig eiriau ar gefn eu cerdyn busnes ydyw
  • dilyn i fyny a chadw mewn cysylltiad - gellir gwneud partneriaethau creadigol ardderchog yn y modd hwn

Peidiwch â:

  • theimlo embaras ynghylch mynychu digwyddiad y diwydiant. Mae'n debygol y bydd llawer o bobl yn yr un sefyllfa â chi
  • gwastraffu amser pobl. Os ydych yn mynd i siarad â rhywun i ofyn am gyngor penodol, gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud eich gwaith cartref yn gyntaf
  • anwybyddu pwer sgwrs hamddenol - na phwysigrwydd y person rydych yn siarad â hwy
  • bod yn niwsans - mae pobl eraill angen rhwydweithio hefyd!
  • mynd dros ben llestri. Os oes diod am ddim i gael, cofiwch mai digwyddiad rhwydweithio yw hwn, nid sesiwn yfed gyda ffrindiau

Os ydych yn eithaf swil a ddim yn hoffi mynd i'r math yma o ddigwyddiadau a ‘gweithio'r ystafell' fel y'i gelwir, mae ffyrdd eraill o gysylltu â phobol. Os ydych yn well mewn sefyllfa un i un, yna gwnewch hynny. Trefnwch i gwrdd â rhywun am goffi yn hytrach na mynd i bartïon.

Yn gryno, rhwydweithiwch yn y ffordd sy'n gweddu i'ch personoliaeth. Os ydych am gwrdd â phobol greadigol, mae angen i chi fod yn greadigol ynghylch cwrdd â hwy!

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800