
Newyddion a Digwyddiadau yng Nghymru
Cynllun Denu Talent
Mae enwau'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymraeg cyntaf i dderbyn nawdd gan y Cynllun Denu Talent wedi'i cyhoeddi, sef Rondo Media, Green Bay ac Indus. Dewiswyd y cwmnïau gan banel arbenigol yn cynnwys uwch swyddogion o'r BBC, ITV a Channel 4
Bydd y fenter yn rhoi hwb i sector ddarlledu Cymru drwy ddarparu cefnogaeth ariannol i gwmnïau cynhyrchu Cymreig i recriwtio uwch gynhyrchwyr, ag enw da a chysylltiadau cyfredol i ddenu comisiynau rhwydwaith sylweddol i Gymru. Byddant hefyd yn hyfforddi a mentora'r don nesaf o uwch dalent cynhyrchu.
Wedi'i ariannu ar y cyd gan Skillset a Busnes Creadigol Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, caiff y cynllun hwn ei rhedeg mewn partneriaeth â Pact, BBC, ITV a Channel 4.
Seremoni Gwobrwyo Iris Prize 2008
Llongyfarchiadau i Connor Clements, a ennillodd wobr dan nawdd Skillset am y ffilm orau ar restr fer o'r DU am ei ffilm ‘James' yn seremoni wobrwyo Iris 2008 yng Nghaerdydd. Gweler The Iris Prize am fwy o wybodaeth am yr wyl.