skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Dylai Datblygiad Proffesiynol Parhaus fod yn ran o gynllun eich bywyd

Pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)

Mae'r cyfryngau creadigol yn newid o hyd - dyna un o'r prif resymau pam eu bod yn ddiwydiannau mor ddiddorol i weithio ynddynt. Mae technoleg yn datblygu o hyd, ac rydym bob amser yn chwilio am 'y peth mawr nesaf'.

Ni allwch fforddio meddwl eich bod yn gwybod popeth, neu y bydd gennych swydd am oes. Yn weithiwr llawrydd neu'n weithiwr cyflogedig, dylai Datblygiad Proffesiynol Parhaus fod yn rhan fawr o gynllun eich bywyd.

Mae'r bobl sy'n llwyddo - ac yn aros mewn cyflogaeth reolaidd - fel arfer yn bobl sy'n croesawu newid ac yn adeiladu ar eu sgiliau.

Mae hyn yn golygu gwybod y diweddaraf am:

  • ddatblygiadau newydd mewn technoleg cynhyrchu
  • gynnyrch newydd i ddefnyddwyr a'r hyn maen nhw'n gallu ei wneud
  • newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweld ac yn defnyddio'r cyfryngau clyweledol
  • dueddiadau'r diwydiant - gwybod pwy sy'n gwneud beth a phryd; pa sgiliau y mae galw amdanynt
  • gynnyrch a gwasanaethau arloesol a gynigir gan gystadleuwyr er mwyn parhau i fod ar y blaen
  • faterion busnes, ariannol a chyfreithiol e.e. newidiadau mewn manteision treth yn y diwydiant ffilm sy'n effeithio ar gynhyrchu, cynlluniau cynhyrchu,cyllid hyfforddi etc
  • yr arddulliau creadigol sy'n ennill gwobrau ac yn denu cyhoeddusrwydd

Nid hyfforddi yw'r unig ffordd o wneud hyn, ond hefyd drwy ddarllen cyhoeddiadau'r diwydiant a rhwydweithio'n effeithiol - po fwyaf o bobl y byddwch yn cwrdd â nhw, po fwyaf y byddwch yn dysgu am sut y gallai'r diwydiant a'ch swydd newid.

Ceir llawer o wybodaeth ar y wefan hon am gynlluniau newydd mewn cyllid a hyfforddi. Ceir mwy o wybodaeth hefyd ar wefannau'r undebau, sefydliadau masnach a chyhoeddiadau sy'n cynrychioli eich sector. Talwch sylw penodol ar ddyddiadau cau, ac edrychwch yn gyson am ddiweddariadau mewn cynlluniau newydd a mentrau eraill.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800