
Bod yn llawrydd
Wrth fod yn weithiwr llawrydd, rydych yn fos arnoch chi eich hun, gallwch benderfynu pryd i weithio a phryd i gymryd gwyliau, a gallwch reoli eich datblygiad proffesiynol eich hun.
Serch hynny, rhaid i chi ddod o hyd i'ch gwaith eich hun, rhaid i chi ymdopi â'r adegau tawel a rhaid i chi benderfynu ar y ffordd orau o addasu i newid.
Mae tua chwarter o weithwyr llawrydd yn gweld bod ganddynt ormod o waith, mae'r rhan fwyaf yn 'gwneud y tro' yn unig, ac mae cyfran fach yn ei gweld hi'n anodd cael unrhyw waith o gwbl.
Er mwyn cynyddu eich cyfle i lwyddo, rhaid bod yn drefnus a chynllunio strategaeth:
|
|
Bydd hefyd angen i chi reoli eich cyllid eich hun, yn cynnwys treth, TAW a chyfraniadau Yswiriant Gwladol -a gweithredu fel busnes bach. Bydd y wybodaeth isod yn helpu i wneud eich bywyd yn llawer haws.
Pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Mae'r cyfryngau creadigol yn newid o hyd - dyna un o'r prif resymau pam eu bod yn ddiwydiannau mor ddiddorol i weithio ynddynt. Ni fedrwch fforddio dybio y bydd gennych swydd am oes.
Read MoreGwasanaethau dyddiadur
Mae gwasanaethau dyddiadur yn adnodd gwerthfawr, gan eich cyflwyno am waith pan fydd cwmnïau yn cysylltu â hwy, byddant hefyd yn trefnu eich dyddiadur. Mae rhai'n arbenigo mewn dod o hyd i waith i weithwyr llawrydd.
Read MoreCyrsiau Byr â Chymhorthdal i weithwyr llawrydd teledu
Diweddarwch eich sgiliau a manteisio ar ddisgownt o 70%! Mae Cronfa Deledu Llawrydd Skillset yn cefnogi'r cyrsiau hynny sy'n cwrdd â'r safonau uchel sy'n ofynnol gan y diwydiant darlledu yn unig.
Read MoreBusnes, cyllid a chyfreithiol
Ydy treth, cyllid a materion cyfreithiol yn eich drysu? Gyda rhywfaint o gyngor a dipyn o drefn, gallwch wneud bywyd yn haws o lawer.
Read MoreStandards for Freelancers
Skillset has developed a simple checklist to allow you to review your existing skills against the skills you will need in the future helping you to develop a personalised plan to give your career that final push it needs!
Read MoreRhwydweithio a chwilio am swyddi
Ai pwy yr ydych yn eu hadnabod sy'n bwysig? Wel, ie a na. Eich enw da sy'n cyfrif. Pan fydd prosiect yn cael caniatâd i fwrw ymlaen, y bobl gyntaf y bydd cyflogwyr yn eu cyflogi yw'r rheiny y maent wedi gweithio gyda hwy o'r blaen.
Read MoreCyngor personol
Gall gwasanaethau Gyrfaoedd Skillset eich cynorthwyo i wneud y gorau o'ch gyrfa. Gallwn eich rhoi ar ben y ffordd, waeth bynnag pa gam o'ch gyrfa yr ydych arno.
Read MoreIechyd a Diogelwch
Amddiffyn y cast a'r criw ac osgoi'r posibilrwydd o gamau cyfreithiol, yw prif flaenoriaeth pob cwmni ac unigolyn.
Read More