
Pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Mae'r cyfryngau creadigol yn newid o hyd - dyna un o'r prif resymau pam eu bod yn ddiwydiannau mor ddiddorol i weithio ynddynt. Mae technoleg yn datblygu o hyd, ac rydym bob amser yn chwilio am 'y peth mawr nesaf'.
Ni allwch fforddio meddwl eich bod yn gwybod popeth, neu y bydd gennych swydd am oes. Yn weithiwr llawrydd neu'n weithiwr cyflogedig, dylai Datblygiad Proffesiynol Parhaus fod yn rhan fawr o gynllun eich bywyd.
Mae'r bobl sy'n llwyddo - ac yn aros mewn cyflogaeth reolaidd - fel arfer yn bobl sy'n croesawu newid ac yn adeiladu ar eu sgiliau.
Mae hyn yn golygu gwybod y diweddaraf am:
- ddatblygiadau newydd mewn technoleg cynhyrchu
- gynnyrch newydd i ddefnyddwyr a'r hyn maen nhw'n gallu ei wneud
- newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn gweld ac yn defnyddio'r cyfryngau clyweledol
- dueddiadau'r diwydiant - gwybod pwy sy'n gwneud beth a phryd; pa sgiliau y mae galw amdanynt
- gynnyrch a gwasanaethau arloesol a gynigir gan gystadleuwyr er mwyn parhau i fod ar y blaen
- faterion busnes, ariannol a chyfreithiol e.e. newidiadau mewn manteision treth yn y diwydiant ffilm sy'n effeithio ar gynhyrchu, cynlluniau cynhyrchu,cyllid hyfforddi etc
- yr arddulliau creadigol sy'n ennill gwobrau ac yn denu cyhoeddusrwydd
Nid hyfforddi yw'r unig ffordd o wneud hyn, ond hefyd drwy ddarllen cyhoeddiadau'r diwydiant a rhwydweithio'n effeithiol - po fwyaf o bobl y byddwch yn cwrdd â nhw, po fwyaf y byddwch yn dysgu am sut y gallai'r diwydiant a'ch swydd newid.
Ceir llawer o wybodaeth ar y wefan hon am gynlluniau newydd mewn cyllid a hyfforddi. Ceir mwy o wybodaeth hefyd ar wefannau'r undebau, sefydliadau masnach a chyhoeddiadau sy'n cynrychioli eich sector. Talwch sylw penodol ar ddyddiadau cau, ac edrychwch yn gyson am ddiweddariadau mewn cynlluniau newydd a mentrau eraill.
