skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Ystyr newydd i'r term 'hyblygrwydd'

Amodau gwaith

Dyma rai pwyntiau cyffredinol i'w cadw mewn cof am oriau, contractau a thâl.

Oriau:
Er mwyn ennill eich plwyf yn niwydiannau'r cyfryngau, yn aml bydd disgwyl i chi weithio oriau hir, anghymdeithasol am ychydig iawn o arian. Felly os yw gyda'r nos a phenwythnosau yn bwysig iawn i chi, gallai bywyd fod yn anodd os gofynnir i chi weithio ar sesiwn ffilmio gyda'r nos, neu aberthu eich dydd Sadwrn er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn cael ei gyflawni ar amser.

Contractau:
Dylai eich contract nodi pryd y bydd disgwyl i chi weithio ac am ba hyd, ond weithiau mae'n anodd dweud "na" wrth eich cyflogwr pan fyddant yn gofyn i chi weithio'n hwyr, gan y gallech boeni na fyddant yn dymuno eich cyflogi y tro nesaf.

Er bod llawer o bobl yn rheoli eu bywydau yn hapus iawn yn y byd ansicr hwn o brosiectau a chontractau tymor byr, mae eraill yn teimlo ei fod yn heriol iawn, yn llawn straen ac yn lladd ar eu morâl. Gall hyn fod yn arbennig o wir os ydych wedi arfer â swydd fwy sefydlog, lle rydych wedi mwynhau cyflog misol, oriau gwaith rheolaidd a phensiwn cwmni.

Tâl:
Nid pawb sydd mewn sefyllfa i weithio am ychydig o arian, felly maent yn cystadlu yn erbyn pobl sydd ag amser ag adnoddau ar eu hochr.

Os oes gennych blant ifanc neu ymrwymiadau ariannol, bydd yn fwy anodd, ond peidiwch â meddwl eich bod wedi eich eithrio. Gall rhai cyflogwyr gydymdeimlo â hyn yn fwy nac eraill, felly os dangoswch eich bod yn medru gweithio'n galed ac yn werth eich cael o gwmpas, mae hynny'n well na rhywun sy'n gallu bod yn bresennol saith niwrnod yr wythnos ond sy'n ddiog neu'n niwsans o gwmpas y lle.

Os ydych yn penderfynu y gallwch weithio am ychydig yn unig o arian, rhowch gant y cant i'r gwaith a sicrhewch eich bod yn ddefnyddiol bob amser. Ceisiwch wneud mwy na'r hyn y gofynnir ohonoch chi - heb fod yn rhy ymwthgar nac yn orhyderus. Mae'r gystadleuaeth yn frwd, ac ni fydd cyflogwyr yn ffafrio rhywun sy'n teimlo eu bod yn rhy dda i wneud y te, neu'n gwneud hynny'n anfodlon - felly arhoswch yn bositif bob amser!

 

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800