
Y da a'r drwg
Gwaith prosiect yw nifer o'r gwaith yn y cyfryngau. Y peth da am hyn yw ei fod yn amrywiol ac yn ddiddorol. Y peth drwg yw bod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant yn weithwyr llawrydd, yn gweithredu fel busnesau bach neu'n gweithio ar gontractau tymor byr. Mae hyn yn golygu bod cadw eich hun mewn gwaith yn cael ei ychwanegu at restr hir iawn o ddyletswyddau eraill.
Gall hyn arwain at sefyllfa llawn straen, gan nad yw rheolau arferol y byd cyflogaeth bob amser yn gymwys yn y cyfryngau creadigol.
Dyma ychydig o bethau i'w cadw mewn cof wrth i chi ddechrau ar eich gyrfa:
- Nid oes llwybr gyrfa benodedig
- Byddwch yn ymwybodol o lefel eich profiad - rhaid i chi ddeall y bydd angen profi eich hun a gweithio eich ffordd i fyny
- Byddwch yn barod i fuddsoddi amser, ac efallai arian, mewn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth
- Mae busnes y cyfryngau yn ymwneud yn llwyr â chyfathrebu - mae'n rhaid i chi allu tynnu ymlaen gyda phobl
- Rhaid bod yn drefnus. Os ydych yn gweithio'n llawrydd, rydych yn fusnes: mae angen cynllunio, anfonebu a dilyn i fyny. Mae llawer o bobl dalentog yn colli allan oherwydd nad oes ganddynt y sgiliau busnes i gefnogi eu creadigrwydd
- Gwnewch ychydig o ymchwil sylfaenol i mewn i dâl/contractau, materion cyfreithiol, hawlfraint, profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, taliadau gohiriedig a threth
- Cymrwch gamau i amddiffyn eich hun a'ch buddiannau
- Parchwch eich talentau - a rhai'r bobl yr ydych yn gweithio gyda hwy.