Gwneud staff yn ddi-waith
Mae colli swydd yn golygu colli'r gwaith sy'n ymwneud â'r swydd, nid â'r person sy'n gwneud y swydd. Gall fod angen i chi golli swydd os:
- ydych yn cau eich busnes
- ydych yn symud eich busnes
- nad oes angen arnoch bellach y sgiliau sy'n ofynnol yn y swydd
Yn naturiol, mae llawer o bobl o dan fygythiad o golli eu swydd yn cymryd y mater yn bersonol, ac mae angen i chi ymdrin â hwy yn ofalus ac yn sensitif. Mae tri cham y mae'n rhaid i chi eu cymryd:
- Ysgrifennu at y cyflogai yn eu hysbysu am y rheswm dros y colli swydd a'i wahodd i gyfarfod i drafod y mater
- Cynnal cyfarfod â'r cyflogai i drafod y colli swydd - y mae hawl gan y cyflogai gael rhywun gyda hwy yno. Hysbysu'r cyflogai am y penderfyniad a'r hawl i apelio
- Cynnal cyfarfod apêl (os yw'r cyflogai yn dymuno apelio) lle mae gan y cyflogai yr hawl i gael rhywun gyda hwy yno - a hysbysu'r cyflogai am y penderfyniad terfynol.
Gall ACAS a Chyswllt Busnes eich arwain chi drwy'r camau hyn:
- Redundancy (ACAS)
- Dismissals, redundancies and other exits (Cyswllt Busnes)
Gallech ei gael yn ddefnyddiol cyfeirio eich cyflogai at ein tudalennau ar ymdopi â cholli swydd