skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Mynd i'r afael â phenderfyniadau anodd

Y peth cyntaf i'w gofio yw nifer y bobl y mae angen i chi eu gwneud yn ddi-waith.

  • Os ydych yn gwneud hyd at 20 o bobl yn ddi-waith, bydd angen dechrau ar broses ffurfiol o ymgynghori â'r unigolion. Ac mae fel arfer yn syniad da ymgynghori â'u cynrychiolwyr undeb hefyd.
  • Os ydych yn mynd i wneud 20 neu fwy o gyflogeion yn ddi-waith o fewn 90 diwrnod, mae'n rhaid i chi ymgynghori â'r holl gyflogeion yn unigol yn ogystal ag undeb(au) llafur y cyflogeion neu gynrychiolwyr etholedig eraill o leiaf 30 diwrnod cyn yr achosion colli gwaith a gynlluniwyd.

Ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori, mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig sy'n nodi'r canlynol:

  • Pam fod angen i chi golli staff
  • Faint a pha gategorïau o gyflogeion sydd dan sylw
  • Cyfanswm nifer y bobl yr ydych yn eu cyflogi ym mhob un o'r categorïau hyn
  • Sut ydych yn bwriadu dewis pwy fydd yn colli eu swyddi
  • Sut byddwch yn gweithredu'r colli swyddi
  • Sut byddwch yn gweithio allan unrhyw daliadau colli swydd

Nid oes rhaid i'r broses hon ddiweddu mewn cytundeb gyda'r cyflogai neu eu cynrychiolwyr, ond mae'n rhaid i chi ei chynnal gyda'r nod o gyrraedd cytundeb. Bydd angen hefyd i chi ddangos eich bod wedi edrych ar ffyrdd o osgoi colli swyddi neu leiafu eu heffaith.

Gall Skillset gynnig pecyn cymorth i'ch cyflogeion drwy ein sesiynau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd. Cysylltwch â Gyrfaoedd Skillset  i ofyn am wybodaeth am y cynnig hwn.

Am wybodaeth bellach ar faterion yn ymwneud a cholli swyddi, mae Cyswllt Busnes yn cynnig arweiniad manwl. Mae gwerth hefyd mewn edrych ar adnoddau fel y canlynol:

Gallai ymgyfarwyddo â barn yr amrywiol undebau ac urddau  sy'n cynrychioli eich cyflogeion eich helpu i lunio'r cyfaddawd gorau posib i bawb.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800