Cefnogaeth colli gwaith i gyflogwyr
A yw busnes yn araf ar hyn o bryd? A oes angen i chi leihau eich gweithrediadau? A ydych yn ystyried colli rhai o'ch staff?
Os bydd angen i chi wneud rhai o'ch cyflogeion yn ddi-waith, bydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn ei wneud yn y ffordd gywir. Does neb yn hoffi gorfod colli staff, ond mae'n deg i ddweud y bydd yn anos fyth ar eich cyflogeion. Mae hyn yn golygu y bydd emosiynau yn fregus, ac os na fyddwch yn dangos parch tuag at eich cyflogeion a'u hawliau, gallai eich cwmni fod yn agored i hawliadau am ddiswyddo annheg, yn ogystal â chreu cyhoeddusrwydd gwael i'r cwmni.
Gweler isod am rai syniadau i'ch helpu i'w wneud yn haws i bawb dan sylw.
Mynd i'r afael â phenderfyniadau anodd
Gall Skillset gynnig pecyn cefnogaeth i'ch cyflogeion drwy eu sesiynau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd.
Read MoreGwneud staff yn ddi-waith
Dyma sut i drin colli swyddi yn ofalus ac yn deg.
Read MoreMwy o wybodaeth
Dyma dudalennau sy'n rhestru sefydliadau creadigol a chyfryngol. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth yn ôl y math o sefydliad, y sector, a'r rhanbarth er mwyn i chi allu eu dilyn yn hawdd.
Read MoreCefnogi a Datblygu Cwmnïau
Fel y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer y Diwydiannau Clyweledol, un o dasgau pwysicaf Skillset yw cefnogi cwmnïau cyfryngau a helpu i sicrhau fod eu busnesau yn parhau yn broffidiol ac yn gystadleuol
Read MoreHyfforddiant
P'un a ydych yn gyflogai neu'n weithiwr llawrydd, mae angen i chi wybod fod unrhyw hyfforddiant yr ydych yn ei dderbyn yn ddiweddar ac yn berthnasol i'r diwydiant. Hefyd mae cwmnïau am fod yn sicr y bydd hyfforddiant datblygu busnes yn eu helpu i ennill a chynnal mantais gystadleuol.
Read More