Cael cynllun gweithredu
Mae'r cyfnod galaru ar ben ac mae'n amser symud ymlaen. Efallai bod eich swydd wedi dod i ben, ond mae eich sgiliau a'ch talent yn parhau. Ystyriwch y rhain fel bendithion, a dechreuwch wneud penderfyniadau am eich dyfodol.
Mae eich opsiynau gyrfa ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:
a) Swydd newydd yn yr un maes. Ystyriwch y canlynol:
- Beth yw'r cyfleoedd cyfredol yn eich maes a'ch rhan chi o'r wlad?
- A fyddech yn ystyried symud?
- A oes angen hyfforddiant arnoch i adnewyddu eich sgiliau?
- A oes llwybrau gyrfa eraill y gallech drosglwyddo eich sgiliau iddynt yn hawdd?
- A yw eich llyfr cysylltiadau wedi'u ddiweddaru?
Mae ein hadran rhwydweithio a chwilio am swyddi yn llawn cyngor ar sut i fynd ati i gael gwaith newydd. Os ydych yn bwriadu ailystyried eich gyrfa yn llwyr, bydd cymorth arbenigwr yn amhrisiadwy. Cysylltwch â ni i archebu sesiwn gyngor personol.
b) Hunangyflogaeth
Os ydych yn meddwl mentro ar eich liwt eich hun, mae sawl peth i'w ystyried. Byddwch yn gyfrifol am dalu eich treth a'ch Yswiriant Gwladol eich hun. Bydd yn rhaid dod o hyd i'ch gwaith eich hun, ac efallai bydd rhaid i chi gyflenwi eich cyfarpar eich hun. Nid yw'r bywyd llawrydd at ddant pawb, ond mae llawer o weithwyr llawrydd yn mwynhau'r rhyddid a'r amrywiaeth sy'n gysylltiedig ag ef.
At ddibenion treth byddwch yn cael eich ystyried yn fusnes bach - sydd hefyd yn golygu y gallwch ofyn am gyngor cychwyn busnes am ddim. Am fwy o wybodaeth am yr hyn y mae bod yn hunangyflogedig yn ei olygu ac am ffynonellau cymorth a chyngor, ewch i'r adran Rheoli eich hun fel gweithiwr llawrydd.
c) Galwedigaeth newydd y tu allan i'r cyfryngau
Os ydych yn ystyried symud i ddiwydiant neu alwedigaeth hollol newydd, edrychwch am y Cyngor Sgiliau Sector sy'n cynrychioli diddordebau eich dewis ddiwydiant newydd. Byddant yn gallu rhoi'r wybodaeth gyrfaoedd orau i chi ar gyfer y maes hwnnw.
Hefyd, cewch wybod mwy gan yr urddau, y cyrff proffesiynol a'r cymdeithasau sy'n cynrychioli diddordebau gweithwyr yn y maes hwnnw.
Efallai mai nawr yw'r amser i roi cynnig ar y syniad hwnnw sydd gennych ar gyfer menter newydd neu i ddysgu sgil newydd. Beth bynnag ydyw, ewch amdani!
