
e-gyngor
Mae ein gwasanaeth e-gyngor yn cynnig gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd am ddim i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â'r cyfryngau creadigol, neu ddatblygu eu gyrfa ynddynt. Cewch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os ydych yn Gynghorydd Gyrfaoedd ac yn dymuno gofyn cwestiwn am y diwydiant.
E-bostiwch un o'n cynghorwyr gyda'ch cwestiwn, a rhowch hwb i'ch gyrfa. Cewch ateb i'ch ymholiad o fewn 10 niwrnod gwaith. Caiff eich e-bost ei drin yn gyfrinachol.
Yn llinell destun eich e-bost, cofiwch nodi:
|
Os ydych yn byw yng Nghymru, e-bostiwch eich cwestiynau i walescareers@skillset.org
Am unrhyw ymholiadau eraill, megis:
- gofyn am becyn ymgeisio wyneb yn wyneb;
- cael gwybodaeth/deunyddiau i'ch sefydliad;
- dweud wrthym am ddigwyddiad yr ydych yn ei gynnal;
- cynnig sylwadau ar y wefan;
- neu ar gyfer unrhyw beth arall cysylltiedig â gyrfaoedd sy'n dod i feddwl, e-bostiwch careers@skillset.org
