
Mathau o brofiad gwaith
Profiad gwaith dros dro yw un o'r ffyrdd gorau i gael gwybod am swydd ,a chael gwared ar unrhyw syniadau rhamantaidd a allai fod gennych am natur go iawn y swydd.
Swyddi haf:
Gallai swyddi haf neu wyliau fod yn ddelfrydol er mwyn dechrau llenwi eich CV. Gall fod swyddi gwyliau ar gael yn eich ardal, mewn stiwdio ffotograffydd, ar gynhyrchiad ffilm fer neu o gwmpas swyddfa cwmni cynhyrchu. Edrychwch allan am unrhyw gyfle a allai godi.
Mae'n rhaid i chi fod yn ddyfeisgar ynglyn â chysylltu â phobl a allai roi y profiad sydd ei angen arnoch. Yn amlwg, po fwyaf o sgiliau sydd gennych eisoes (ee prosesu geiriau, cyfrifiaduro, gweinyddu) y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn cael hyd i rywbeth.
Nid yw'n debygol y byddwch yn cael mwy na'r cyflog isafswm ar gyfer swydd wyliau.
Cysgodi rhywun mewn swydd:
Un o'r ffyrdd gorau i ddechrau magu profiad yw cysgodi gweithiwr proffesiynol wrth iddynt wneud eu swydd arferol. Gelir gwneud hyn ar Sadyrnau neu yn ystod y gwyliau a bydd yn rhoi golwg uniongyrchol i chi ar yr hyn y mae proffesiwn penodol yn ei wneud. Edrychwch i weld a oes unrhyw ffotograffwyr, golygyddion, dylunwyr gwallt a cholur, animeiddwyr neu unrhyw ymarferwyr eraill yn eich sector o ddewis y gallech gysylltu â hwy.
Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn falch o gael rhywun yn gwmni iddynt am newid wrth fynd o gwmpas eu gwaith. Gallwch hefyd ffonio neu ysgrifennu at gwmnïau lleol neu weithwyr proffesiynol yn uniongyrchol i ofyn a ydynt yn fodlon helpu, er, y ffordd orau i ddod o hyd i'r math hwn o brofiad yw trwy ffrind i'r teulu, neu ffrind i ffrind.
Pan fyddwch yn cysgodi, ni fydd angen i chi wneud llawer o waith (efallai ychydig o negeseuon a gwneud y te), ond dylech fod yn effro i bopeth, arsylwi'r hyn sy'n digwydd, gofyn cwestiynau a chael gwybod am bethau.
Fel arfer, nid yw'r math hwn o brofiad gwaith yn talu, ond bydd yn rhoi syniad da i chi o'r hyn y bydd cyflogwyr y dyfodol yn chwilio amdano.
Cofiwch, yn y ddau achos, chi fydd yn elwa fwyaf o'r trefniant. Felly byddwch yn gwrtais bob amser ac wedyn ysgrifennwch i ddiolch iddynt. Os ydych yn lwcus, efallai bydd y gweithiwr proffesiynol neu'r cyflogwr yn fodlon rhoi geirda i chi, fydd yn help mawr i chi wrth ddod o hyd i waith yn y dyfodol.