skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Dechreuwch restr o gysylltiadau ac ewch allan i gyarfod pobl

Dod o hyd i leoliad profiad gwaith

Ar ol i chi benderfynu ar y sector(au) o'r diwydiant yr hoffech weithio ynddo, a'ch bod wedi darganfod cymaint â phosib am y prif ddylanwadau, mae'n amser dechrau cnocio ar ddrysau.

Trwy eich ymchwil, rydych fwy na thebyg wedi datblygu darlun o'r prosiectau, y cyflogwyr posib yn eich ardal a'r sefydliadau y gallech fod yn eu ffonio am gymorth. Beth am y cysylltiadau yr ydych wedi'u gwneud hyd yma? A ydych wedi gwneud eich gwaith cartref a'u didoli yn Start a contact list? A wnaethoch gynnwys pobl a allai eich cyflwyno i bobl eraill a allai fod yn ddefnyddiol?

Beth nesaf?
Meddyliwch am sut gallech gwrdd, ac yn ddelfrydol siarad, â rhai o'r bobl hyn. Beth ydych am ei gyflawni yn ystod sgwrs gyda hwy? Ysgrifennwch nodyn byr (mae e-byst yn gweithio'n eithaf da hefyd) yn egluro eich bod ar ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant ac y byddech yn gwerthfawrogi ychydig o gyngor am......(rhywbeth y mae ganddynt brofiad helaeth ohono) ac a fyddai modd i chi drefnu cyfarfod byr?

Cyn i chi gwrdd, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod popeth amdanyn nhw. Bydd eich ‘ymgynghorwyr' yn disgwyl i chi feddu ar beth gwybodaeth am eu prosiectau, ffilmiau neu raglenni, hysbysebion, arddull ffotograffaidd, gemau neu unrhyw faes busnes.

Prif bwrpas yr ymweliadau hyn yw gwneud eich hun yn hysbys, cyflwyno eich hun; fodd bynnag, efallai y bydd posibilrwydd gwirioneddol o gael gwaith, felly byddwch yn barod. Bydd cyflogwyr yn disgwyl eich bod chi wedi meddwl am sialensiau y gallech eu hwynebu wrth weithio ar brosiect neu gynhyrchiad penodol.

Ewch â CV byr gyda chi, ond peidiwch â chael eich siomi os dywedant y byddant yn ei gadw ar ffeil. Yn hytrach, gwnewch yn siwr eich bod yn gofyn a oes modd iddynt argymell ffynonellau defnyddiol eraill o gyngor neu brofiad gwaith ac a fyddai modd i chi ddefnyddio eu henw wrth gysylltu â phobl eraill.

Anfonwch nodyn diolch neu e-bost ar ôl y cyfarfod. Yn yr un modd ac mewn unrhyw fusnes arall, mae amser yn hynod werthfawr ac mae angen i chi sicrhau eu bod yn sylweddoli eich bod yn gwerthfawrogi unrhyw gyfle a gynigiwyd.

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800