
Canllawiau profiad gwaith
Mae profiad gwaith yn aml yn denu tâl isel, ac nid yw'r gwaith bob tro yn ysbrydoledig. Wedi dweud hynny, peidiwch a gadael i neb eich ecsbloetio. Mae gan y llywodraeth ganllawiau (a gyhoeddwyd gan y DTI) ar drin pobl mewn cynlluniau lleoliadau gwaith ac mewn profiad gwaith gwirfoddol - dylech chi a'ch cyflogwr fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae'r canllawiau yn gosod yn glir y telerau canlynol:
Oriau:
- Dylai lleoliadau gwaith fod yn gyfyngedig i amser - heb fod yn fwy na phythefnos ar gyfer lleoliadau di-dâl a heb fod yn hwy na phedair wythnos am leoliadau sy'n denu'r cyflog isafswm.
- Nid ydynt yn berchen arnoch - dylid cyfyngu'r oriau i 40 awr yr wythnos.
- Mynnwch gael y trefniant ar ddu a gwyn - dylid cael disgrifiad clir a chywir o'r lleoliad. Dylai hyn egluro pa sgiliau a rhinweddau y dylai fod gennych, a'r gweithgareddau arferol y gofynnir i chi eu cyflawni.
Tâl:
- Ni ddylai unigolion ar brofiad gwaith fod yn llenwi unrhyw rolau a fyddent fel arall yn cael eu cyflawni gan staff neu griw cyflogedig.
- Dylech dderbyn y Cyflog Isafswm Cenedlaethol o leiaf, oni bai:
- Eich bod yn fyfyriwr yn ymwneud â chynllun profiad gwaith a drefnir gan y coleg
- Eich bod yn ‘cysgodi' cyflogai yn unig
- Eich bod yn cymryd rhan yn y cynllun ar sail wirioneddol wirfoddol - mae hyn yn golygu y gallwch fynd a dod yn ôl eich dymuniad ac nid ydych o dan unrhyw ymrwymiad i gwblhau'r gwaith, na chyflawni swydd benodol.
- Peidiwch â bod ar eich colled - dylai darparwr y lleoliad dalu eich costau o leiaf.
Goruchwyliaeth:
- Gwnewch yn siwr nad ydych yn cael eich gadael yn ddigyfeiriad - dylid penodi aelod o staff i oruchwylio eich gweithgareddau.
- Sicrhewch eich bod yn derbyn cyflwyniad iawn ar y diwrnod cyntaf - yn enwedig mewn perthynas â Iechyd a Diogelwch.
- Gwnewch yn siwr bod eich gweithgareddau wedi'u cwmpasu gan yswiriant y cwmni.
- Dylid cael cyfle ar gyfer adborth a gwerthuso ar ddiwedd y lleoliad.
Cydnabyddiaeth hawlfraint:
- Gwnewch yn siwr eich bod yn cael cydnabyddiaeth am y gwaith yr ydych wedi'i wneud.
- Peidiwch â gadael i unrhyw un ddwyn eich syniadau (gweler y cyngor ar Copyright). Bydd gan ddarparwr y lleoliad hawliau dros waith yr ydych yn cymryd rhan ynddo fel lleoliad profiad gwaith.
- Os ydych yn datblygu peth gwaith gwreiddiol yn ystod eich profiad gwaith, bydd angen i'r darparwr ei brynu oddi wrthych os ydynt am ei gadw.
Mae PACT, y sefydliad cyflogwyr mewn ymgynghoriad a Grwp Polisi Sgiliau PACT wedi cyflwyno PACT Work Experience Code of Practice i helpu i atal rhai o'r arferion sy'n digwydd o ran ecsbloetio.
Ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am brofiad gwaith, gweler y canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y DTI - DTI Work Experience Guidelines