skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Gall gweithio fel Profwr Gemau fod yn ffordd i mewn i'r diwydiant gemau cyfrifiadurol

Swyddi lefel mynediad

Fwy na thebyg bydd angen i chi ddechrau mewn rôl iau tan i chi brofi fod gennych y sgiliau a'r rhinweddau angenrheidiol i weithio yn y cyfryngau creadigol. Profiad gwaith y rhan fwyaf o bobl yn y cyfryngau yw fel Hyfforddai/Cynorthwyydd neu Redwr.

Y gwahaniaeth rhwng Rhedwr a Hyfforddai yw er bod Hyfforddai yn hyfforddi ar gyfer sydd benodol, mae Rhedwr yn gynorthwyydd cyffredinol sy'n ddefnyddiol wrth gefnogi'r tîm cynhyrchu cyfan. Gall profiad gwaith fel rhedwr mewn tîm cynhyrchu - hyd yn oed os ydych yn cael eich hun yn dosbarthu'r post i'r gwahanol adrannau - fod yn ffordd dda o ddysgu beth mae pob adran yn ei wneud a phwy sy'n gweithio ynddynt. Ac fe allwch ofyn cwestiynau wrth i chi ddosbarthu.

Nid yw rhedwyr fel arfer yn cael eu talu'n dda, ac os nad oes unrhyw brofiad blaenorol gennych, efallai y gofynnir i chi weithio am y cyflog isafswm neu hyd yn oed ar sail wirfoddol (e.e. os yw'n ffilm fer a hunan-ariennir). Tra nad yw neb yn hoffi'r syniad o weithio am y nesaf peth at ddim, ni ddylech adael i'ch hun gael eich ecsbloetio (gweler Work experience guidelines). Wedi dweud hynny, mae sawl agwedd bositif am y peth:

  • Bydd cyflogwyr yn gweld eich bod yn gallu gwneud eich swydd
  • Byddwch yn gallu rhoi'r profiad gwaith i lawr ar eich CV
  • Mae cyflogwyr yn aml yn gwerthfawrogi profiad gwaith dros gymwysterau academaidd
  • Byddwch yn cael golwg fanwl ar y diwydiant
  • Mae'n gyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr iawn
  • Gallech gael geirda da, neu hyd yn oed symud o un maes i un arall
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800