skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Adeiladu portffolio

Y cam nesaf

Mae digon i feddwl amdano wrth i chi ddechrau cynllunio'r cam nesaf yn eich gyrfa. Y pedwar maes allweddol y bydd angen i chi ganolbwyntio arnynt yw:

Sgiliau - A oes angen hyfforddiant pellach arnoch er mwyn cynyddu? A yw cyflogwyr yn edrych am gymhwyster penodol?

Profiad - A ydych yn dymuno ehangu eich profiad yn gweithio fel Rhedwr? Neu a fyddai'n well cael hyd i swydd fel hyfforddai mewn swydd benodol, e.e. Hyfforddai Camera, Hyfforddai Adran Gelf?

Cysylltiadau - A ydych yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i rwydweithio? A fyddai'n fuddiol i dderbyn swydd sy'n talu llai fyddai'n eich rhoi chi o fewn cronfa recriwtio cwmni, e.e. gweithio fel Cynorthwyydd Gwerthu Manwerthu Ffotograffiaeth er mwyn i chi allu hyfforddi fel Gweithredwr?

Cydnabyddiaeth - A ydych yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn yr ydych yn ei wneud? A ydych yn adeiladu portffolio personol o waith sy'n dangos eich talent a'ch symbyliad?

Dylech hefyd drio gofyn i rai o'r bobl yr ydych wedi gweithio gyda hwy sut wnaethon nhw gyrraedd lle maen nhw heddiw, a beth maen nhw'n ei feddwl y dylech chi wneud nesaf.

Cael eich gweld
Edrychwch ar wefannau prif sefydliadau'r diwydiant am wybodaeth ar swyddi i hyfforddeion yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio. Ewch i gymaint o ddigwyddiadau'r diwydiant ag y gallwch a gwnewch y mwyaf o'ch cyfleoedd rhwydweithio. Mae rhai o'r digwyddiadau mwyaf yn cynnwys sioe flynyddol Broadcast LIVE, Gwyl Animeiddio Bradford a digwyddiadau PACT, RTS, Cyngor Ffilm y DU neu ddigwyddiadau IVCA, pan maent yn agored i'r rhai nad ydynt yn aelodau. A chofiwch gadw cyflenwad o gardiau busnes a CVs gyda chi.

Yn y cyfamser, gweithiwch ble bynnag y gallwch yn eich dewis ddiwydiant. A chofiwch hefyd mai eich cyfrifoldeb chi yw bod yn rhagweithiol a chyrraedd y bobl sy'n cyfrif.

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800