skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Gyrfaoedd

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Atebion i'ch cwestiynau ar yrfaoedd posib

Cwestiynau Cyffredin gan Redwyr

Cliciwch ar y dolenni isod i weld yr atebion. Ar ôl eu darllen, dychwelwch at y cwestiwn nesaf drwy ddefnyddio'r dolenni ‘i'r brig'.







 

  1. Ble gallaf gael gwybod am waith fel Rhedwr?
  2. Sut gallaf ddarganfod pa gwmnïau sy'n cyflogi Rhedwyr?
  3. Sut gallaf ddarganfod pa fathau o gynyrchiadau mae cwmni yn eu gwneud?
  4. Sut gallaf ddarganfod pa gynyrchiadau sydd ar y gweill a phwy i gysylltu â hwy?
  5. Pa fath o brofiad allai helpu fy nghais?
  6. A oes unrhyw hyfforddiant cost isel i Redwyr?
  7. Ble gallaf gael gwybodaeth ar gontractau, cyfraddau tâl, iechyd a diogelwch?
  8. A ddylwn weithio yn llaw–rydd neu ar gontract TWE (Talu wrth Ennill)?
  9. Pa mor hir ddylwn weithio fel Rhedwr?


1. Ble gallaf gael gwybod am waith fel Rhedwr?

Mae papurau newydd y diwydiant, gwefannau cymdeithasau'r diwydiant a chwmnïau, a gwasanaethau recriwtio ar–lein yn ffynonellau da am swyddi. Cewch wybod mwy am y sefydliadau a'r cyhoeddiadau hyn drwy dudalennau diwydiant y wefan hon.

Sefydlwyd yr Asiantaethau Sgrîn Rhanbarthol i gefnogi'r holl ddiwydiannau sgrin, a dyma un o'r mannau cyntaf i gysylltu â hwy. Efallai bydd ganddynt grwpiau rhwydweithio i bobl yn eich sector o'r diwydiant, yn ogystal â gwybodaeth ddiweddar am wahanol fentrau hyfforddiant, a/neu gynlluniau ffilm cyllideb isel lle y gallwch gynnig eich gwasanaethau.

Mae gorsafoedd radio ysbytai, cymunedol a'r rhyngrwyd yn aml yn edrych am wirfoddolwyr a gallwch gael manylion am y rhain ar eu gwefannau. Gallwch hefyd gysylltu ar hap â chynhyrchwyr newydd neu gwmnïau cynhyrchu – mae llawer ohonynt yn nodi manylion cyfleoedd ar eu gwefannau.

Fel arall, gallwch ymuno â grwp cyfryngau cymunedol lleol (e.e. GMAC, Canolfan Mynediad i'r Cyfryngau Glasgow) sydd â chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol lleol a chwmnïau sy'n gweithredu o fewn y diwydiannau clyweledol. Dylai'ch Asiantaeth Sgrîn Rhanbarthol allu rhoi gwybodaeth i chi am y mathau hyn o grwpiau.

Er mwyn gwybod mwy am ymchwilio'r math hyn o wybodaeth, ewch i'r adran mwy o wybodaeth

I'r brig


2. Sut gallaf ddarganfod pa gwmnïau sy'n cyflogi Rhedwyr?

Mae llawer iawn o wybodaeth i'w gael ar wefannau cwmnïau – yn enwedig y cwmnïau mawr. Darllenwch bapurau newydd y diwydiant ac edrychwch ar gyfeirlyfrau'r diwydiant am fanylion cyswllt. Ffeindiwch pa fath o raglenni neu gynnyrch mae cwmnïau'n eu cynhyrchu, a gwnewch bwynt o edrych y credydau ar ddiwedd rhaglenni.

Byddwch yn ymwybodol ac yn wybodus. Sbiwch ar fanylion rhedwyr eraill mewn cyfeirlyfrau a chronfeydd data er mwyn gweld eu credydau ac enwau'r cwmnïau y maent wedi gweithio iddynt.

Gellir canfod mwy o fanylion am sectorau'r diwydiant a'r cwmnïau sy'n gweithio ynddynt yn yr adran addysgu eich hun yn ogystal ac yn y tudalennau sector.

I'r brig


3. Sut gallaf ddarganfod pa fath o gynyrchiadau y mae cwmni yn eu gwneud?

Ymchwiliwch i fewn i'r sector ar y rhyngrwyd. Defnyddiwch gyfeirlyfrau'r diwydiant e.e. cyfeirlyfr TIGA, neu gyfeirlyfr Pact sy'n rhestru eu haelodau yn ôl y math o ragelnni maent yn eu cynhyrchu. Neu, ar gyfer y sector corfforaethol, edrychwch ar gyfeirlyfr yr International Visual Communication Association (IVCA) sy'n rhestru eu haelodau fesul rhanbarth, yn ôl manylion eu hallbwn. Cofiwch wylio a nodi'r credydau ar raglenni teledu/ffilmiau, darllenwch bapurau newydd y diwydiant, ac edrychwch ar wefannau cwmnïau.

I'r brig



4. Sut gallaf gael gwybod pa brosiectau a chynyrchiadau sydd ar y gweill a phwy i gysylltu â hwy?

Mae cael y math yma o "wybodaeth fewnol" yn galw am ymchwil greadigol. Dechreuwch gyda phapurau newydd y diwydiant fel Broadcast, The Photographer, Creation, Creative Review, Televisual, a Screen International. Mae'r holl gyhoeddiadau hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol os ydych yn edrych y tu hwnt i'r adrannau swyddi a phenodiadau. Darllenwch rhwng y llinellau, gan dalu sylw arbennig i gwmnïau sy'n denu'r mwyaf o sylw gan y wasg.

Efallai bydd gan Asiantaethau Sgrîn Rhanbarthol grwpiau rhwydweithio i bobl sy'n gweithio mewn ffilm, teledu, animeiddio, gemau cyfrifiadurol a chyfryngau rhyngweithiol yn eich ardal . Efallai eu bod hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ar gynlluniau ffilmiau ar gyllideb isel.

Os gallwch gael gafael arnynt, mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd yng nghyhoeddiadau cymdeithasau'r diwydiant e.e. cylchgrawn misol PACT, neu'r IVCA Update – cylchlythyr sy'n cynnwys newyddion aelodau'r IVCA. Ceisiwch ddarganfod os yw cwmni wedi derbyn comisiwn newydd neu'n bwriadu ehangu adran a allai gynnwys swyddi Rhedwyr. Byddwch yn brydlon a gwnewch yn siwr eich bod yn cyfeirio at ddatblygiadau yn briodol; cofiwch,  erbyn i chi ei ddarllen, gall ffynonellau cyhoeddiadau'r diwydiant fod yn "hen newyddion". Dyma'r hyn y gallwch ei wneud:

  • Defnyddiwch gyfeirlyfrau i gael hyd i fanylion cyswllt – yn achos y darlledwyr mawr, yr adran adnoddau dynol/personél yw'r man cychwyn, ac yn y sector annibynnol, Cydlynwyr/Rheolwyr Cynhyrchu.
  • Gwnewch yn siwr fod enw'r person iawn i gysylltu â hwy genncyh – gall cyfeirlyfrau ddyddio yn gyflym.
  • Cyfeiriwch lythyrau cyflwyniadol yn bersonol ac ymchwiliwch i gynnyrch y cwmni er mwyn i chi allu dangos eich gwybodaeth am y rhaglenni y maent yn eu cynhyrchu.
  • Rhowch eich CV a'ch llythyr cyflwyniadol yn y post yn syth.

Mae cael gafael ar wybodaeth fewnol yn golygu rhwydweithio mewn digwyddiadau fel y sioe gynhyrchu flynyddol Broadcast LIVE, Gwyl Deledu Caeredin, mynd i gyfarfodydd sefydliadau perthnasol y diwydiant fel PACT, y Gymdeithas Deledu Frenhinol, BECTU, IVCA, a'r New Producers Alliance. Mae rhai o'r rhain i aelodau yn unig, ond mae llawer o sefydliadau yn cynnig aelodaeth â disgownt i newydd–ddyfodiaid.

I'r brig


5. Pa fath o brofiad cyn–fynediad a allai helpu gyda fy nghais?

Gan mai swydd lefel mynediad yw hon, mae'n help os gallwch ddangos diddordeb amatur brwd yn y maes. Mae profiad cyn–fynediad defnyddiol yn cynnwys llwybrau fel:

  • gweithio mewn grwpiau theatr fel Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol – paratoad da ar gyfer swydd fel Rhedwr Llawr mewn ffilm a drama deledu;
  • gweithio mewn Radio ysbyty, radio neu'r rhyngrwyd;
  • cynorthwyo ffotograffydd lleol;
  • gweithio mewn Adran TG mewn ysgol neu goleg;
  • gweithio fel hebryngwr ar recordiadau stiwdio o sioeau adloniant; ac
  • unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano. Creadigrwydd yw'r ffordd ymlaen.

I'r brig


6. A oes unrhyw hyfforddiant cost–isel i Redwyr?

Er mwyn helpu paratoi Rhedwyr ar gyfer y diwydiant, creodd Skillset ‘Tystysgrif Cyflwyno'r Diwydiannau Clyweledol' sy'n cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y mae cyflogwyr ar draws y diwydiannau clyweledol wedi dweud wrthym y mae angen i chi eu gwybod. Byddai cwblhau'r cwrs hwn yn rhoi i chi gymhwyster City & Guilds, a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Tystysgrif Lefel 2 ar gyfer Cyflwyno'r Diwydiannau Clyweledol .

I'r brig


7. Ble gallaf gael gwybodaeth ar gontractau, cyfraddau tâl, a iechyd a diogelwch?
Gwefan Skillset Careers yw'r man cychwyn cyntaf. Hefyd, mae gwefan yr undeb llafur BECTU yn cynnwys llawer o wybodaeth am faterion o'r math yma.

Mae BECTU'n cynnig aelodaeth â disgownt i newydd–ddyfodiaid, ac mae'r undeb yn weithgar iawn wrth ddiogelu diddordebau Rhedwyr. Mae gwybodaeth ar gyfraddau, contractau a llawer mwy ar gael ar y wefan. Maent hefyd yn cynnig cyngor ac yn trefnu hyfforddiant ar iechyd a diogelwch.

Gall cymdeithasau masnach a sefydliadau cefnogi eraill hefyd gynnig cyngor i'w haelodau. Mae cyflogwyr yn edrych fwy fwy am dystiolaeth o ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch.

I'r brig


8. A ddylwn weithio yn llawrydd neu ar gontract TWE (Talu wrth Ennill)?

Mae manteision ac anfanteision i'r ddau, ond yn aml iawn, dewis eich cyflogwr fydd hyn yn hytrach na'ch dewis chi. Mae rhai cyflogwyr yn rhoi Rhedwyr ar gontract TWE, ac eraill yn rhoi'r dewis i chi. Mae'n well gan rai ryddid tybiedig ac amrywiaeth y ffordd o fyw llawrydd; mae eraill yn dymuno cael sicrwydd contract. Fel gweithiwr llawrydd, gallwch hawlio rhai costau yn erbyn treth ee costau teithio a rhai eitemau offer. Mae cymhorthdal ar gael ar gyfer rhai cyrsiau byrion, ac yn aml gellir didynnu'r dreth o deithio a'r treuliau sy'n gysylltiedig â hyfforddiant. Pan gewch eich talu, ni fydd treth nac Yswiriant Gwladol wedi cael ei dynnu i ffwrdd, felly gall hyn roi camargraff i chi ynglyn â faint o arian sydd gennych. Rydych yn gyfrifol am gwblhau ffurflen dreth flynyddol, a bydd angen i chi arbed y swm amcangyfrifedig o'r dreth sy'n ddyledus.

Mae gan Redwyr sydd ar gontract TWE, sydd efallai'n gweithio i gwmnïau darlledu neu adnoddau mawr, rywfaint o sicrwydd swydd, yn dibynnu ar hyd y contract, ac maent fel arfer yn gallu cyfrannu at gynllun pensiwn y cwmni. Am fanylion pellach,ewch i'r adran busnes, cyllid a'r gyfraith.

I'r brig


9. Pa mor hir ddylwn weithio fel Rhedwr?

Wrth gwrs, nid oes un ateb cywir i'r cwestiwn hwn. Mae'n dibynnu ar yr unigolyn - eich sgiliau, faint o diddordeb sydd gennych mewn croesi gwahanol sectorau o'r diwydiant, eich nod gyrfaol tymor hir a'ch gallu i ymdopi ar incwm sy'n aml yn gyfyngedig.

Mae rhai pobl yn ei wneud am o leiaf 2 flynedd cyn cael cyfle gwirioneddol, ac mae rhai cyflogwyr, yn enwedig mewn ffilm, yn teimlo bod 2-3 blynedd yn arferol er mwyn meithrin ystod o brofiad.

Gall Rhedeg arwain ar sawl swydd gwahanol – mae'n dibynnu ar y sector. Er enghraifft, yn y sector ffilmiau nodwedd, yn aml ceir Rhedwyr sy'n symud ymlaen i fod yn brif Redwr cyn symud i rolau 3ydd ac 2il Gynorthwyydd, ac yna Cynorthwyydd 1af. Ar gyfer Rhedwyr mewn swyddfa gynhyrchu gallai'r cam nesaf olygu bod yn Gynorthwyydd Cynhyrchu, yna'n Gydlynydd Cynhyrchu Cynorthwyol, yna'n Gydlynydd Cynhyrchu. Mewn animeiddio, mae Rhedwyr yn aml yn cael eu hyfforddi yn y swydd cyn symud ymlaen i fod yn Inbetweener neu Junior Animator.

Mae llawer o gyflogwyr yn cwyno am redwyr sy'n ‘dymuno rhedeg cyn y gallant gerdded'. Y peth pwysig yw dod o hyd i swydd redeg fydd yn rhoi sylfaen gwirioneddol i chi ddatblygu mewn cyfeiriad penodol.

I'r brig

Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800