skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Adnoddau

Yn yr Adran yma

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Gall gweithio fel Rhedwr fod yn ffordd wych o gyfarfod pobl a darganfod beth yn union rydych eisiau ei wneud

Beth mae Rhedwyr yn ei ddweud

Fel Rhedwr, mae'r math o waith y gellid gofyn i chi ei wneud yn eang, ac yn dibynnu ar y cwmni a'r sector cyflogaeth.

Gofynnom i Redwyr roi amlinelliad cryno i ni o'u dyletswyddau arferol bob dydd. Mae'r atebion a roddwyd ganddynt wedi'u grwpio isod ac yn cynrychioli'r math o waith y gellid disgwyl i chi ei gyflawni:

Dyletswyddau swyddfa

  • Gweinyddiaeth - llungopïo, ffeilio, ateb ymholiadau ffôn, cadw cofnodion yn ystod sesiynau briffio boreol, gwaith cronfa ddata
  • Dyletswyddau ariannol - trin arian mân, codi archebion prynu ac anfonebu
  • Dosbarthu amserlenni a memos i'r holl gast a chriw
  • Casglu a chymryd eitemau i wahanol swyddfeydd/cwmnïau

Dyletswyddau cyffredinol

  • Trefnu cinio a diodydd i'r artistiaid a'r criw
  • Negeseuon, bod wrth law i helpu
  • Prynu - prynu DVDs a CDs ar gyfer ymchwil, siopa ar gyfer/dychwelyd eitemau ar gyfer y sioe, prynu propiau, chwilio am, neu wneud propiau/gwisgoedd

Dyletswyddau cynhyrchu

  • Cyffredinol
    • Cyd-gasglu a dosbarthu sgriptiau
    • Cael artistiaid a gwesteion drwy golur, wardrob ac i'r set
    • Gwneud cardiau ciwio i gyflwynwyr ar gyfer sioe'r dydd
  • Gwaith technegol
    • Dadlwytho cyfarpar, gweithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr i osod yr holl gyfarpar yn barod i'r gweithredydd saethu; cynorthwyo'r 3ydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol a'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol 1af.
    • Helpu gyda rigio a dad-rigio offer camera
    • Gwneud vox-pops a chynorthwyo'r dyn camera gyda siotiau
    • Ffilmio a DV
    • Dybio
    • Bwrw ceblau
    • Cynorthwyo gydag ôl-gynhyrchu yn cynnwys gweithio yn yr adran VT a digidoli
  • Lletygarwch
    • Prynu, paratoi a gweini lluniaeth i'r cast, criw a gwesteion
    • Paratoi a glanhau'r Ystafell Werdd ac ystafell y gynulleidfa
  • Ymchwil
    • Dyletswyddau Ymchwilydd Iau - ymchwilio rhaglenni dogfen newydd (ymchwil llyfrgell, cynadleddau i'r wasg, ffôn a'r rhyngrwyd) ac ymchwilio ffeithiau a gwybodaeth benodol ar gyfer rhaglenni dogfen sydd eisoes yn cael eu cynhyrchu.
Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800