
Beth mae cyflogwyr yn ei ddweud
"Gall rhedwyr sy'n creu argraff bositif yn ystod profiad gwaith gael cynnig swydd hyfforddai neu gael eu hargymell ar gyfer swydd mewn cwmni arall."
"Ein problem fwyaf yw cyfleu'r neges mai busnes yw hwn - mae'n rhaid i ni gyflenwi, ar amser ac o fewn y gyllideb."
"Mae ein rhedwyr gorau wedi bod yn gymeriadau go iawn - ond hefyd yn gall ac yn hyblyg. Mae'n dîm bach iawn ac mae unrhyw un sy'n ymuno yn gorfod bod yn ddymunol i fod yn eu cwmni."
"Mae bob amser yn well os oes gan rywun syniad gwirioneddol ynghylch ble maen nhw eisiau bod - a gorau po fwyaf realistig y syniad hwnnw."
"Un o'r manteision mwyaf yw bod Rhedwyr yn cael gwybod y gwahaniaeth rhwng coleg a gweithio mewn stiwdio go iawn. Mae'n eu helpu i benderfynu pa gyfeiriad allai fod yn iawn iddynt ."
"Mae profiad o weithio mewn gwestai a bwytai yn ddefnyddiol iawn."
"Os ydych yn canmol pobl (yn ddidwyll) maent yn fwy tebygol o'ch helpu i ddysgu. Gall gofyn i Olygydd ‘gaf i ddod i'ch gwylio chi ar ddiwedd y dydd?' fod yn ddechrau da."
"Mae angen sgil go iawn i ddangos gallu a'ch ffaith eich bod yn werth eich dyrchafu tra'n gwneud pethau diflas a chyffredin."
