skip to page contents

Gyrfaoedd | Hyfforddiant | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safoniau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Animeiddio | Computer Games | Corfforaethol & Hysbysebion | Adnoddau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Adnoddau

Yn yr Adran yma

Chwilio am Gwrs

Chwiliwch am gyrsiau ffilm, teledu, radio, animeiddio, y cyfryngau rhyngweithiol a llun ddelweddau yn y DU yn y cyfeirlyfr BFI/Skillset.








Mae rhwydweithio yn cynyddu'ch gwybodaeth a'ch proffil

Cyngor ar rwydweithio gan Redwyr

'Rhwydweithiwch fel lladd nadroedd' meddai pennaeth cwmni rhaglenni dogfen arobryn. Nid yw rhwydweithio'n dod yn naturiol i bawb - mae'n sgil sydd angen ei ddysgu. Gall pob un ohonom fod yn well am ddechrau (a chofio) y ‘sgyrsiau â phwrpas' hyn.

Mae rhwydweithio tra'n dal i weithio fel Rhedwr yn fuddiol am sawl reswm. Mae'n cynyddu eich gwybodaeth ac yn codi eich proffil gyda phobl allweddol a allai eich helpu. Gallech gael gwybod am swydd wag a gallech ddatblygu un neu fwy o fentoriaid yn y diwydiant.

Dyma ychydig o gyngor gan bobl sydd wedi gweithio fel Rhedwyr:

"Ar ôl cyfarfod anffurfiol, ysgrifennwch nodyn byr o ddiolch i'r person, a gwnewch nodyn am eich sgwrs ac unrhyw enwau a allai fod yn gysylltiadau yn y dyfodol."

"Cariwch gardiau busnes gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt ar un ochr a'ch prif sgiliau/diddordebau ar y llall."

"Ystyriwch sefydlu gwefan  - mae mwy a mwy o recriwtio yn cael ei wneud ar y we."

"Ewch i ddigwyddiadau a gwyliau mawr y diwydiant; peidiwch â gweithio'r bar yn unig, ond mynnwch wybod pa gwmnïau sy'n ehangu, pwy sy'n cyflenwi cyfarpar i gynyrchiadau ffilm a theledu newydd. Nodwch enw'r cwmni ac yn ddelfrydol enw'r Cydlynydd/Rheolwr Cynhyrchu."

"Rhowch wybodaeth am eich cynnydd fel Rhedwr i Gynhyrchwyr/Cydlynwyr Cynhyrchu bob chwe mis. Gall ‘tracio' ymddangos ychydig bach fel ‘stelcio' ond mae unrhyw beth yn bosib yn y diwydiant rhyfedd hwn."

Skills For Business Logo
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2007-08 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800