skip to page contents

Gyrfaoedd | Cyrsiau | Cefnogaeth i Gwmnïau | Safonau | Cymwysterau | Ymchwil | Strategaeth | Ariannu | Cenhedloedd a Rhanbarthau | Am Skillset
Hysbysebu | Animeiddio | Computer Games | Adnoddau | Ffasiwn a Thecstilau | Ffilm | Cyfryngau Rhyngweithiol | Llun-Ddelweddau | Cyhoeddi | Radio | Teledu
Text size: A A A

Adnoddau

Courses Search

Search the BFI/Skillset Media Courses Directory of over 8,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
Pyrotechnics from Sahara (Paramount) courtesy of Cinesite

Beth yw Effeithiau Ffisegol Arbennig?

Effeithiau Arbennig yw un o'r grwpiau galwedigaethol mwyaf clodfawr o fewn y diwydiant, er ei fod gyda'r lleiaf. Dywedir yn aml bod technegwyr Effeithiau Arbennig Prydeinig heb eu hail, gyda nifer cynyddol o ffilmiau'r UD yn cael eu gwneud yn y DU o ganlyniad i hyn.

Mae Effeithiau Arbennig yn faes bach ac arbenigol, ac mae mynd i mewn iddo yn anodd, er gwaetha'r nifer cynyddol o Effeithiau Arbennig sy'n cael eu defnyddio mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae cyrsiau cyfryngau a graffeg ar gael, ond bydd yn rhaid i newydd ddyfodiaid gysgodi'r rheiny sy'n gweithio uwch eu pennau am beth amser cyn magu'r profiad i gynyddu.

Mae personél Effeithiau Arbennig yn cynllunio, gwneud a gweithredu'r offer a dyfeisiau Effeithiau Arbennig sydd eu hangen mewn cynhyrchiad. Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio mewn Effeithiau Arbennig yn arbenigwyr mewn meysydd arbenigol:
  • electroneg;

  • adeiladu;

  • mecanwaith;

  • gwaith coed;

  • roboteg;
  • a
  • ffrwydron;
yn ogystal â bod yn bersonél Effeithiau Arbennig 'cyffredinol'.

Mae pob galwedigaeth Effeithiau Arbennig yn gofyn am y wybodaeth a'r sgiliau canlynol:
  • Dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifiaduron;

  • Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch;

  • Creadigrwydd a dychymyg;

  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da;
  • a'r
  • Gallu i ddychmygu sut y bydd pethau yn ymddangos 'ar y sgrÎn'.
Rhennir Effeithiau Arbennig yn y diwydiant Ffilm a Theledu yn dri maes penodol:

1. Effeithiau Arbennig Ffisegol;

2. Effeithiau Arbennig Pyrotechneg; ac

3. Effeithiau Arbennig Gweledol.

Ar adegau camddefnyddir y termau uchod (weithiau defnyddir 'effeithiau gweledol' i ddisgrifio pob math o Effeithiau Arbennig). Fodd bynnag, mae'r tair swyddogaeth benodol yma yn dod yn fwy amlwg ar draws y diwydiannau cyfryngau.

Pwy sy'n gweithio yn y sector Effeithiau Arbennig?
Mae'r sector effeithiau arbennig yn cyflogi 300 o bobl yn ôl cyfrifiad Skillset 2002.



Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-11 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800