
Llogi stiwdios ac offer: y ffeithiau
Mae cwmnïau llogi stiwdio/offer yn cyflenwi offer a gwasanaethau technegol arbenigol i bob sector o’r diwydiannau clyweledol:
• darlledwyr,
• cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy’n gwneud rhaglenni i ddarlledwyr,
• ffilmiau hir,
• hysbysebion,
• promos pop,
• y sector corfforaethol
• ac i drefnwyr cynadleddau mawr neu adrannau’r llywodraeth ar brydiau.
Mae cwmnïau yn berchen ac yn cynnal offer a chyfleusterau drud iawn – camerâu, craeniau, offer goleuo, offer llogi stiwdio/offer, stiwdios ac eitemau eraill, sef y dechnoleg ddiweddaraf yn amlach na pheidio.
