A Bigger Future

Cafodd A Bigger Future, pecyn blaengar gwerth £10 miliwn y flwyddyn o fesurau pum mlynedd i ddenu pobl fwyaf talentog Prydain i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm, ei lansio heddiw gan Gyngor Ffilm y DU a Skillset, y Cyngor Sector Sgiliau ar gyfer y Diwydiannau Clyweledol.
Mae'r cynigion yn cynnwys:
· creu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer ffilm ar ffurf rhwydwaith genedlaethol newydd o Academïau SgrÎn, wedi'u lleoli mewn sefydliadau addysg bellach, uwch ac ôl-raddedig ledled y DU, i roi'r sgiliau masnachol a chreadigol sy'n ofynnol gan y diwydiant i fyfyrwyr. Bydd gan yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS) swyddogaeth allweddol yn y rhwydwaith hwn;
· law yn llaw ag arbenigedd yr NFTS ym maes cynhyrchu ffilmiau, creu academi fusnes ffilm newydd a fydd yn cynnig lefel ategol o addysg ac arbenigedd i godi lefel sgiliau busnes a sgiliau arwain a rheoli effeithiol cwmnïau cynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilmiau ledled y DU;
· cyflwyno system gymeradwyo newydd yn y diwydiant ar gyfer cyrsiau ffilm mewn addysg uwch i'w gwneud hi'n haws i fyfyrwyr weld pa gyrsiau a fydd yn rhoi'r gymysgedd iawn o sgiliau creadigol ac ymarferol i weithio yn y diwydiant ffilm;
· gwella ansawdd y cyngor ar yrfaoedd ar y diwydiant ffilm a'r gallu i gael gafael arno (mewn nifer o ffyrdd yn cynnwys un wefan gyngor gynhwysfawr ar y rhyngrwyd) i'r rhai sydd am ymuno â'r diwydiant o ysgolion, colegau ac ati ledled y DU, yn ogystal â diwallu anghenion datblygu proffesiynol parhaus y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant sydd am wella eu harbenigedd a'u gwerth yn y farchnad;
· sefydlu 'cronfa amser' o weithwyr proffesiynol y diwydiant ffilm sy'n fodlon rhoi o'u hamser i wneud pethau fel siarad neu ddarlithio mewn ysgolion a phrifysgolion, cynnal cyrsiau hyfforddi, a chynghori ar wybodaeth gyrfaoedd;
· gwella mynediad i rai dan hyfforddiant trwy gynyddu'r niferoedd sy'n dilyn prentisiaethau modern, yn arbennig mewn meysydd technegol fel crefftau ac adeiladu setiau a sefydlu Rhwydwaith Hyfforddeion Ffilm y DU - i alluogi cyflogwyr cynhyrchu i ddod o hyd i bobl dalentog ac ymroddgar ar gyfer eu hyfforddi, a datblygu cwrs cynefino cyffredinol ar gyfer y newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant;
· darparu grantiau, bwrsariaethau a rheolwyr hyfforddiant peripatetig i helpu cwmnïau'r diwydiant ffilm i dderbyn gweithwyr dan hyfforddiant, darparu profiad gwaith, hyfforddiaethau, cyfleoedd mentora a chysgodi gwaith a darparu'r sgiliau angenrheidiol i staff newydd a chyfredol fel y gallant lwyddo mewn diwydiant sy'n symud yn gyflym;
· galluogi cwmnïau'r diwydiant ffilm i gael mynediad i adnoddau addysgu ac hyfforddi fel y gallant wella eu gallu i gynhyrchu a chystadlu;
· cynnal rhaglenni ymchwil manwl parhaus i roi gwybodaeth am fylchau mewn sgiliau, i alluogi'r diwydiant, holl asiantaethau ffilm cyhoeddus ac addysg bellach ac uwch i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion y dyfodol.