Proffiliau Swyddi Ffilm

Mae'r diwydiant ffilm yn rhannu ei hun yn bum sector:
- Datblygu - ysgrifennu, pecynnu ac ariannu syniadau a sgriptiau ffilmiau.
- Cynhyrchu - y broses o sefydlu a saethu pob golygfa mewn ffilm.
- Ôl-gynhyrchu - lle y casglir yr holl siotiau, a'u cymysgu i greu cynnyrch gorffenedig.
- Dosbarthu - y broses o werthu'r cynnyrch hwn i gynulleidfaoedd, drwy'r sinemâu, manwerthwyr a chwmnïau rhentu.
- Arddangos - y sinemâu sy'n dangos y ffilmiau ar gyfer y cyhoedd.
Mae cannoedd o wahanol swyddi yn niwydiant ffilm y DU, gyda phob un yn gofyn am gyfuniad unigryw o sgiliau arbenigol. Mae mwyafrif y rolau hyn o fewn y sector cynhyrchu ffilmiau, a rhennir criwiau cynhyrchu yn sawl hierarchaeth adrannol safonol. Mae gan bob adran dasgau penodol ac amcanion dynodedig ar gamau penodol yn y broses gynhyrchu.
Y penderfyniad cyntaf sy'n wynebu unrhyw un sy'n dymuno gweithio mewn cynhyrchu ffilmiau mewn gwirionedd yw: ym mha adran yr hoffwn i weithio?
Cael cyfle ffodus yn y dwydiant Ffilm
Mae goroesi yn y diwydiant ffilm yn anodd a'r man cychwyn yn unig yw meddu ar dalent. Mae'n ddiwydiant bach a chystadleuol a'r allwedd i lwyddiant yw nid o reidrwydd pwy yr ydych chi'n eu hadnabod, ond pwy sy'n eich adnabod chi.
Read MoreCyngor personol
Gall gwasanaethau Gyrfaoedd Skillset eich cynorthwyo i wneud y gorau o'ch gyrfa. Gallwn eich rhoi ar ben y ffordd, waeth bynnag pa gam o'ch gyrfa yr ydych arno.
Read MoreRhedwyr mewn Ffilm
Bachwyd y term 'Rhedwr' yn y diwydiant ffilm, ac fe'i chydnabyddir fel rol lefel mynediad allweddol.
Read MoreWorking in Archives
To gain an understanding of the range of jobs within archives, and what they entail, here are six interviews with professionals currently working in the industry.
Read More