
Ble mae'r sector Gemau Cyfrifiadurol wedi'i leoli?
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o sectorau yn y diwydiannau clyweledol, nid yn Llundain a'r De Ddwyrain mae cwmnïau gemau cyfrifiadurol wedi'u lleoli'n bennaf. Mae llawer o gyhoeddwyr gemau mawr i'w cael yn Llundain ond mae yna ganolfannau cynhyrchu gemau pwysig hefyd mewn llefydd fel Manceinion/Lerpwl, Surrey, Swydd Warwig, Sheffield a Dundee.
