Beth yw Dylunio a Datblygu'r We?
Y we neu'r rhyngrwyd a fu'r cyfrwng newydd mwyaf blaenllaw dros y deng mlynedd diwethaf gyda mwy o bobl yn ei ddefnyddio nag unrhyw dechnoleg cyfryngol o'i flaen. Argymhellir fod dros 10 miliwn o wefannau yn y byd erbyn hyn.
Fel rheol, bydd gwefan yn darparu un o'r canlynol:
· Newyddion a gwybodaeth
· Hysbysebion a marchnata
· E-fasnach
· Dysgu ar-lein
· Adloniant
· Gweithgareddau cymunedol
Wrth i boblogrwydd y rhyngrwyd gynyddu, felly hefyd nifer yr asiantaethau cyfryngau newydd oedd yn ceisio manteisio ar y maes. Mae'r cwmnïau hyn yn dylunio, adeiladu, rheoli a rhoi cyngor ar wefannau i'w cleientiaid. Yn aml, byddant yn datblygu 'mewnrwyd' (gwefannau at ddefnydd mewnol yn unig) ac yn rhoi cyngor ar ebostio swmp at ddibenion marchnata.
Ynghyd â datblygiadau newydd mewn ffilm a theledu, mae'r we hefyd yn darparu llwyfan newydd i ddarlledu gwybodaeth gyfryngol, gan ddefnyddio technoleg gywasgu newydd ar gyfer y rhyngrwyd. Mae yna gyfle hefyd i 'sgwrsio'n fyw' gyda sêr y ffilmiau a sioeau siarad, sy'n galluogi'r cyhoedd i ryngweithio gyda'u rhaglenni teledu. Y BBC yw un o gynhyrchwyr gwe mwyaf y byd.