skip to page contents


Text size: A A A

Cyfryngau Rhyngweithiol

Courses Search

Search the BFI/Skillset Media Courses Directory of over 8,000 UK television, film, publishing, radio, animation, interactive media and photo imaging courses.


  • Select a sector

  • Where do you want to train or study?
CD Rom

Beth yw'r sector CD/DVD rhyngweithiol?

CDs a CD-ROMs oedd y pethau i'w cael yn ystod yr 1980au a'r 1990au, ac fe daniwyd dychymyg y cyhoedd gyda'r dechnoleg newydd ac anhygoel hon. Roeddynt yn rhoi gwell sain ac ansawdd, ac yn gallu dal mwy o wybodaeth na chyfryngau blaenorol. CD-ROMs roddodd i ni un o'r cyfleoedd cyntaf i ryngweithio. Er fod twf y Rhyngrwyd a thechnoleg MP3 wedi effeithio ar y sector CD-ROM mae yna farchnad ar gyfer CDs rhyngweithiol o hyd, yn enwedig ym maes addysg a hyfforddiant.

Bellach mae CDs yn rhan o fywyd bob dydd, a technolegau iau fyth yn tanio dychymyg y byd. Mae DVDs, 'Digital Versatile (neu Video) Discs', yn dal mwy o wybodaeth ar ffurf gywasgedig na thapiau fideo.

Gyda'u 'nodweddion ychwanegol' yn cynnwys rhaglenni dogfen effeithiau arbennig, proffiliau cast a chriw ac ieithoedd gwahanol, mae DVDs yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.

Mae mini-ddisgiau ac MP3s yn caniatau gwybodaeth gywasgedig debyg ar gyfer cerddoriaeth a sain. Gyda chymaint o fformatau gwahanol ar gael, mae yna lawer o swyddi yn ymwneud â throsglwyddo gwybodaeth o un cyfrwng i'r llall, tra'n cadw'r ansawdd gwreiddiol, gan ddefnyddio ac addasu data ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau newydd.
Hafan |  Sector |  Cenhedloedd a Rhanbarthau |  Amdanom Ni |  Chwilio
Hawlfraint 2001-11 Skillset |  Polisi Defnydd Data |  Am y Safle Hwn |  Deddf Hygyrchedd

Skillset, Focus Point, 21 Caledonian Road, London, N1 9GB. Tel: 020 7713 9800