Beth yw Teledu Rhyngweithiol?
Mae teledu rhyngweithiol yn galluogi gwylwyr i ryngweithio gyda'u teledu, gan gymryd rhan mewn rhaglenni cwis a dewis pa gemau chwaraeon i'w gwylio. Yn y dyfodol, efallai y bydd hi'n bosib dewis sut rydych chi am weld rhaglen deledu neu ffilm yn gorffen.
Ond nid ym maes adloniant yn unig y mae posib defnyddio technoleg ryngweithio. Er enghraifft, meddyliwch am raglen deledu sy'n dysgu mathemateg syml i blant ac sy'n cynnwys profion rhyngweithiol - byddai hyn yn chwyldroi'r byd teledu a'r byd dysgu. Dyma un o'r rhesymau pam fod y Llywodraeth am sicrhau bod pawb yn newid i deledu digidol - hynny yw, i alluogi'r math hwn o ryngweithio, ac yn y broses, i werthu'r band tonfeddi analog (nawr wedi'i ohirio tan 2010 o leiaf). Er bod teledu rhyngweithiol yn dod yn fwy poblogaidd, nid yw wedi tanio dychymyg y cyhoedd fel roedd rhai sylwebyddion wedi darogan ar adeg y chwyldro dot-com. Mae rhaglenni fel Big Brother a Pop Idol wedi defnyddio dulliau rhyngweithiol yn llwyddiannus i wneud mwy o arian.
Technoleg ddigidol sy'n galluogi'r rhyngweithio hwn, gan beri bod modd trosglwyddo mwy o wybodaeth drwy fand eang, cebl neu loeren. Mae teledu digidol eisoes wedi effeithio ar deledu ym Mhrydain, gyda lluniau ac effeithiau digidol datblygedig ym mhob rhaglen ddogfen hanesyddol fwy neu lai. Mae teledu sy'n defnyddio technoleg ddigidol i'r eithaf yn galluogi mwy o effeithiau gweledol rhyfeddol, sain a llun cliriach, ac yn gwneud i chi deimlo'n rhan o'r hyn sy'n cael ei ddangos ar y teledu yn eich cartref.