Swyddi Cynhyrchu Corfforaethol
Mae'r math o waith mewn Corfforaethol yn ei hanfod yn rhannu'n dri maes, gyda gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi gofynnol a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.
- Cynhyrchu (cynnwys)
- Cynhyrchu (technegol)
- Gweinyddu, cefnogi a gwerthu
CYNHYRCHU - CYNNWYS
(Swyddog Gweithredol Cyfrifon, Cyswllt â Chleientiaid, Cynhyrchydd Gweithredol, Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr, Newyddiadurwr, Ymchwilydd, Awdur ac ati).
Mae angen ar gynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, awduron ac ymchwilwyr yr un sgiliau a phrofiad ar gyfer teledu darlledu, a'r un lefel o gyflawniad a pherfformiad proffesiynol. Mewn llawer o ffyrdd mae'r gynulleidfa yn fwy craff mewn Corfforaethol. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i chi, ar ryw gam, ddangos eich cynnyrch terfynol i'r cleient, sydd yn aml yn unigolyn craff iawn sy'n gweithio o dan bwysau, neu grwp o unigolion y gallai eu rhagolygon gyrfa eu hunain ddibynnu i raddau ar eich gwaith a'ch cynnyrch.
CYNHYRCHU - TECHNEGOL
(Trefnydd Digwyddiadau, Trefnydd Cynadleddau, Camera, Sain, Goleuo, Golygu, Celf, Peirianneg ac ati.)
Yn draddodiadol byddai rhywun yn hyfforddi yn y swydd - fel cynorthwyydd camera, neu gynorthwyydd sain - ac yna byddai pobl yn mynd ar eu liwt eu hunain, neu'n cael gwaith fel y prif swyddog eu hunain. Mae technoleg fideo a digidol wedi golygu nad yw “cynorthwyydd” yn rôl gyffredin bellach, ac felly mae'n rhaid i fwy a mwy o bobl hyfforddi ar gyfer rolau technegol mewn Ysgolion Ffilm neu Adrannau Prifysgolion, neu gyda gweithgynhyrchwyr offer neu dai adnoddau.
Yn ogystal â'r sgiliau technegol, bydd Cynhyrchwyr corfforaethol sy'n cyflogi pobl camera, sain, golygyddion ac ati yn edrych am hyblygrwydd, personoliaeth gyfeillgar ac agwedd “eiddgar”.
CYFFREDINOL - GWEINYDDU, CEFNOGI
(Rheolwr Cynhyrchu, Cyfrifydd Cynhyrchu, Cyfreithiwr, CC ac ati.)
Mae'r maes gwaith hwn yn gymharol safonol gonfensiynol ar gyfer y rhan fwyaf o rolau. P'un a ydych am fod yn ysgrifenyddes neu'n gyfreithiwr, yn gyfrifydd neu'n rheolwr personél, byddwch yn hyfforddi yn y ffordd arferol.
Ond hyd yn oed yma ceir rhai rolau Corfforaethol a Darlledu Teledu penodol, fel Rheolwr Cynhyrchu (RhC) nad oes ganddynt lwybr hyfforddi penodol hyd yn hyn. Mae RhC yn gymysgedd o reolwr cyllideb, trefnydd, recriwtiwr, pennaeth gweinyddu, cefnogaeth gyffredinol ac unrhyw swydd arall y gallant ei hysgwyddo ar gyfer cynhyrchiad. Maent yn adnabod gwyr technegol a'u cyfraddau, maent yn gwybod am brosesau ffilm a'u costau; maent yn gwybod am fwyafrif yr hyn sy'n berthnasol, ac os nad ydynt… maent yn gwybod sut i gael y wybodaeth yn gyflym. Mae cyrsiau hyfforddi byr ar gyfer y rôl hon, ond yr unig ffordd ymlaen mewn gwirionedd o bosib yw parhau i arsylwi a dysgu yn y gwaith.






