Cynhyrchu Corfforaethol
"Corporate production is looked down upon? Listen £2.7 billion cannot all be wrong. And this is billions belonging to hard-headed folk, not prone to just give it away." (Comisiynydd Corfforaethol)
Mae'r diwydiant corfforaethol yn ffynnu. Mae'n cynhyrchu £2.7 biliwn, mwy nag a gaiff ei wario ar holl gynyrchiadau ffilmiau nodwedd Ewrop at ei gilydd yn flynyddol. Yn gyffredinol, mae gan gynhyrchiadau corfforaethol gyllidebau parchus, yn aml llawer yn uwch ar sail £ y funud sgrîn na Theledu Darlledu. Mae'r maes corfforaethol yn dueddol o roi cyflogau gwell i'w timoedd cynhyrchu hefyd, gan fynnu ffilmiau o safon ddarlledu neu o safon cynhyrchu yn gyfnewid. Mewn gwirionedd, daw'r actorion, cyflwynwyr ac aelodau y tîm cynhyrchu mewn Cynyrchiadau Corfforaethol o faes darlledu yn bennaf.
Er gwaethaf hynny, nid yw'r maes Corfforaethol yn adnabyddus ac mae'n debyg fod gweithwyr p proffesiynol clyweledol yn ei ystyried yn israddol i deledu darlledu. Pam? Efallai mai'r rheswm am hynny yw nad yw'r sector yn amlwg iawn. Yn ogystal, nifer o sefydliadau a chwmniau bychain a maint canolig sydd yn y sector, ac nid yw'r rhain yn dueddol o hysbysebu i'r cyhoedd. Mae'n debygol hefyd mai cynulleidfa fach a phenodol fydd yn gwylio'r cynhyrchiadau. Rheswm arall posib yw mai ychydig iawn o "enwau adnabyddus", os o gwbl, sydd yn y sector corfforaethol. Yn olaf, ac yn afresymegol, mae'n bosib bod gweithwyr proffesiynol darlledu yn gweld bod cyrraedd degau o filiynau gyda'u gwaith darlledu, "heb eu llygru gan ystyriaethau masnachol" yn faes gweithio purach.
Er bod gweithwyr proffesiynol yn ei ddifrïo i ryw raddau, mae gan y sector deinamig hwn, a edmygir yn rhyngwladol, lawer i'w gynnig i unigolion talentog sy'n deall busnes a rheini o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Cyllidebau uchel, yn aml gymaint â £10,000 y funud, cyflog da, gweithlu medrus iawn, ffocws pendant a'r rhyddid artistig i archwilio a chyrraedd amcanion y prosiectau - mae Cynhyrchu Corfforaethol yn becyn cyffrous.
Ffeithiau Cynhyrchu Corfforaethol
Mae'r sector hwn yn datblygu'n gyflym er nad yw'n cael digon o gyhoeddusrwydd ac mae yna gyfleoedd gwirioneddol ar gyfer pobl glyfar, creadigol a threfnus. Gall arbenigo yn y sector Gorfforaethol olygu eich bod yn creu cynnyrch o safon uchel, gyda chydweithwyr o safon uchel, datblygu gyrfa sy'n talu'n dda ac y gallwch fod ynghlwm â chynnyrch dyfeisgar a hiroesol.
Read MoreSgiliau a Hyfforddi ar gyfer Cynhyrchu Corfforaethol
Ceir pobl o bob math o gefndiroedd addysgol a diwylliannol yn gweitho yn y maes Corfforaethol. Unwaith eu bod yn y sector, mae pobl yn symud o gwmpas ac mae'r mwyafrif yn cael gwaith drwy gysylltiadau ar dafod leferydd. Mae nifer yn weithwyr llawrydd, gweithwyr achlysurol ar gyfnod gwaith, neu gytundebau dyddiol, wythnosol, misol neu dri mis.
Read MoreY Diwydiant Cynhyrchu Corfforaethol
Amrywia cwsmeriaid y Cwmnïau Cynhyrchu Corfforaethol o gwmnïau lleol, cynghorau lleol, Prifysgolion a cholegau, i gorfforaethau cenedlaethol, Llywodraeth, Asiantaethau Cyhoeddus ac Elusennau, i gorfforaethau a sefydliadau rhyngwladol.
Read MoreRhedwyr yn y sector Corfforaethol
Mae'r maes cyflogaeth pwysig hwn yn cynnwys tua 2500 o gwmniau yn y DU, y gallai rhai ohonynt fod o ddiddordeb i Redwyr.
Read MoreSwyddi Cynhyrchu Corfforaethol
Mae'r math o waith mewn Corfforaethol yn ei hanfod yn rhannu'n dri maes, gyda gwahanol fathau o bobl, gwahanol sgiliau, gwahanol lwybrau hyfforddi gofynnol a gwahanol lwybrau gyrfaol ar gyfer pob un.
Read MoreNewid Mathau o Waith
Ystyriaeth bwysicaf Cynhyrchu Corfforaethol bob amser yw gweithredu amcanion a dymuniadau y cwsmer, pa bynnag gyfrwng a ddefnyddir. Golyga'r newidiadau ym maes technoleg bod y cyfryngau a ddefnyddir, ac felly'r meysydd gwaith a geir yn y sector Corfforaethol, yn newid yn barhaus hefyd.
Read MoreArian ym maes Cynhyrchu Corfforaethol
Gall ymarferwyr profiadol - yn enwedig yn y maes technegol - ennill bywoliaeth dda iawn fel gweithiwr llawrydd yn y maes Corfforaethol. O ran y maes Cynhyrchu Cynnwys, mae'n dibynnu'n llwyr ar a ydych yn gyfarwyddwr ar y cwmni neu'n bartner, a pha mor llwyddiannus yw'r sefydliad.
Read More






