Corfforaethol a Hysbysebion
Er eu bod yn cyflogi llai o bobl na'r diwydiannau ffilm a theledu mwy amlwg, mae'r sectorau sy'n cynhyrchu hysbysebion, cynyrchiadau corfforaethol a fideos pop yn bwysig iawn.
Mae cynyrchiadau corfforaethol yn ffynnu, gyda gweithlu a delir yn dda sydd â lefel uchel o sgiliau. Yn aml mae'r cyllidebau'n fawr ac mae gan y timau cynhyrchu ryddid celfyddydol i gyflwyno nodau'r prosiect.
Mae'r sector hysbysebion yn hynod gyffrous a chystadleuol, gan gynhyrchu gwaith ag effaith bwysig y gall, ar ei orau, fynd yn rhan o ddiwylliant y genedl. Mae'r rheiny sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain yn ffurfio canran uchel o'r gweithlu.
O ran amrywiaeth y gweithlu, dangosodd Cyfrifiad Cyflogaeth Skillset 2006 fod menywod yn cyfrif am lai na thraean o'r gweithwyr a gyflogir gan hysbysebion a chynyrchiadau corfforaethol. Mae cynyrchiadau corfforaethol yn cyflogi canran o bob ag anableddau sy'n uwch na'r cyfartaledd, ond llai na chyfartaledd y DU o weithwyr o leiafrifoedd ethnig. Mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn ffurfio cyfran gyfartalog o ran y DU o'r rheiny sy'n gweithio mewn hysbysebion, ond cyflogir nifer bach iawn o bobl ag anableddau.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a ymchwil a gwblhawyd gan Skillset, ewch i tudalennau ymchwil ar ein wefan.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gyfansoddiad pob diwydiant a'r cyfleoedd i chi drwy glicio'r dolenni isod:
Cynhyrchu Corfforaethol
Mae cwmniau cynhyrchu corfforaethol yn arbenigo mewn cyfathrebu busnes gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau yn cynnwys fideo corfforaethol, digwyddiadau byw, teledu busnes trwy loeren ac, yn gynyddol, cyfryngau rhyngweithiol.
Read MoreArolwg Hysbysebion
Mae hysbysebion fel ffilmiau byrion, yn adrodd stori ac iddynt ddechrau, canol a diwedd.
Read More